DIGWYDDIAD
Clwb digidol - Asbri 2024 - 25
10 Medi 2024
16:00
Yr Egin
Ymunwch â ni yn Yr Egin ar gyfer Clwb Asbri, rhan o brosiect Tanio! Rydym yn glwb digidol a chreu cynnwys lle mae creadigrwydd yn dod yn fyw.
Rydym yn cyfarfod bob dydd Mawrth o 4-5yh am awr o hwyl a chreadigrwydd. Yn Asbri, byddwch yn dysgu sgiliau ffilmio sylfaenol, hanfodion sut mae'r diwydiant yn gweithio, ac yn cael cyfle i fod yn greadigol.
Yn ein sesiynau, byddwch yn dysgu sgiliau digidol a chreadigol gwerthfawr. Fel rhan o brosiect Tanio, rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau meistr a chyfle i’r gymuned leol rannu eu straeon.
Peidiwch â cholli'r cyfle cyffrous hwn i ehangu'ch doniau a chreugydag eraill!
Mae'r clwb yma ar gyfer bynyddoedd ysgol 4, 5 a 6.