DIGWYDDIAD
Sinema Babi - Mama Mia
27 Medi 2024
10:00
Yr Egin
Mae Sinema Babi yn rhoi cyfle i rieni fwynhau ffilm gyda’u rhai bach (dan 2 oed), heb orfod chwilio am neb i warchod! Ma' 'na ddigon o le i barcio pram, bydd y golau fyny, y sŵn yn wedi ei ddistewi ar y ffilm ychydig a ma' 'da ni goffi gwych yn ein caffi (i'r rhai sy'n dioddef o ddiffyg cwsg!) yn ogystal â chyfleusterau newid.
Comedi cerddorol yw 'Mamma Mia', lle cawn gwrdd â Donna (Meryl Streep), gwestywraig annibynnol ar ynysoedd Groeg, sy’n paratoi ar gyfer priodas ei merch, Sophie. Heb yn wybod i'w mam, mae gan y briodferch gynllun arbennig. Ma' hi'n gwahodd tri dyn o orffennol ei mam i'r briodas, yn y gobaith o gwrdd â'i thad go iawn cyn y diwrnod mawr.
Mae'r ffilm yn seiliedig ar ganeuon y grŵp pop ABBA.