DIGWYDDIAD
Noson Sinema - Scopophobia (Gyda sesiwn H+A cast a criw / With Cast and Crew Q+A)
31 Hydref 2024
19:00
Yr Egin
Ffilm arswyd Gymreig 100-munud (cyfrwng Saesneg) yw ‘Scopophobia’. Sgriptiwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Aled Owen o Gaerfyrddin. Cynhyrchiwyd y ffilm gan y cwmni Melyn Pictures Cyf, sef Aled Owen a’i gyd-gynhyrchydd Tom Rawding o Portsmouth. Sefydlwyd y cwmni yng Nghaerfyrddin yn 2021.
Mae’r teitl, “Scopophobia”, yn cyfeirio at yr ofn o gael eich gwylio. Mae’r stori yn dilyn Rhiannon
(Catrin Jones, actores o Abertawe) sy’n dioddef o’r cyflwr, ar ôl i’w ffrindiau rhoi pwysau arni i
ddwyn arian o’r felin ddur leol pan oeddent yn eu harddegau. Degawd yn ddiweddarach, mae
Rhiannon yn aduno â’i ffrindiau (actorion Bethany Williams-Potter o Gaerfyrddin, Emma Stacey
o Benybont-ar-Ogwr, ac Ellen Jane-Thomas o Ddinbych-y-pysgod). Y tro yma, mae’r dref yn
farwaidd, ac mae’r merched yn rhoi pwysau ar Rhiannon unwaith eto i’w tywys nhw i’r felin ddur
i adennill yr arian a guddiwyd yno. Ond, maen nhw’n cael eu cloi yn yr adeilad, ac mae dieithryn
yno gyda nhw. Ydy’r dieithryn yno i’w cosbi, neu a’u heuogrwydd sy’n chwarae triciau?
Cynhyrchiwyd ‘Scopophobia’ ar gyllideb fechan iawn o arian y cast a’r criw eu hunain, yn
ogystal â dau ymgyrch cyllid torfol (ar Indiegogo a Greenlit). Dechreuodd y ffilmio yng
Nghaerfyrddin am bum diwrnod ym Mis Mawrth 2022. Y golygfeydd rhataf i’w ffilmio oedd y
rhain (golygfeydd deialog, heb styntiau nac effeithiau arbennig), a defnyddiwyd y rhain er mwyn
codi arian ar gyfer yr ail bloc o ffilmio ym Mis Hydref 2022. Am chwe diwrnod, lleolwyd ffilmio'r
ail floc yn Bay Studios, Abertawe, ac yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ymunodd y
Cydlynydd Styntiau, Kevin McCurdy ac Artist Effeithiau Arbennig, Ellie Baldwin, y cynhyrchiad
yn ystod yr ail floc. Ar ôl ffilmio a golygu dau dreian o’r ffilm, cynhaliwyd ymgyrch cyllid torfol
arall er mwyn cwblhau’r ffilmio gydag un bloc arall am bedwar diwrnod ym Mis Mawrth 2023.
Ffilmiwyd y golygfeydd yma mewn ffatrïoedd yn Middlesbrough. O fewn blwyddyn a dros 15
diwrnod o ffilmio yn unig, cyflawnwyd cynhyrchiad y ffilm.
Gwnaeth Aled Owen â Tom Rawding gyfarfod yn yr Ysgol Ffilm Ogleddol (Prifysgol Leeds
Beckett) a graddiodd y ddau ohonynt yn 2019. Dechreuodd y prosiect pan ddaeth pandemig
Covid-19 â swydd gyntaf Aled o fewn y diwydiant i ben yn gynnar. Wrth iddo bryderu fod hyn
wedi cyfyngu ar ei gyfleoedd ym myd y ffilmiau yn sylweddol, penderfynodd ef a Tom fod yn
fentrus a chreu cyfle i'w hunain.
Ysbrydolwyd Aled i ddatblygu stori'r sgript wrth iddo gerdded o gwmpas Caerfyrddin yn ystod y
cyfnodau awyr agored a ganiatawyd yn ystod y cyfnod clo. Roedd gweld ei dref enedigol mor
wag a difywyd yn hedyn i blot 'Scopophobia'.
Yn dilyn y dangosiad arbennig yma mi fydd sesiwn holi ac ateb yng nghwmni cast a chriw.
Oed - 15+