DIGWYDDIAD

Taith o'r Egin i ddysgwyr Cymraeg | Tour of Yr Egin for Welsh learners

15 Hydref 2025

18:30
Yr Egin
5

Dewch i fwynhau taith arbennig o'r Egin ar gyfer dysgwyr Cymraeg, fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu! 

Mi fydd y daith yn hwylus ac ar gyfer dysgwyr canolradd, Uwch a hyfydredd.

Mae’r Egin yn Bencadlys i S4C a llawer mwy... Dewch i ymweld â ni i ddysgu am sut mae’r ganolbwynt cymunedol hwn yn sbarduno creadigrwydd a chyd-weithio yn Sir Gâr a’r de Orllewin.

I ddechrau'r noson, mi fydd yna groeso hyfryd yn aros amdanoch, a chyflwyniad i amcanion Yr Egin, hanes sefydlu'r ganolfan a'r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma.

Yna, cewch daith tywys o'r Galon i'r Stiwdio Fach, o'r ardal ôl-gynhyrchu i'r stiwdio sgrîn werdd. Yna, ymlaen i'r llawr cynta, lle mae pencadlys S4C, ac i fyny i'r ail lawr, lle mae amryw o gwmnïau sydd wedi ymgartrefu yn y ganolfan. 

Cewch glywed am yr amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithdai a ffilmio rhaglenni sy'n digwydd yma, gyda digon o gyfleoedd i holi cwestiynau a chael golwg go iawn o gwmpas Yr Egin. 

Mae yna lifft yn yr adeilad, yn ogystal a grisiau, felly mae'r daith o gwmpas yr adeilad yn agored ac yn hygyrch i bawb. 

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!