DIGWYDDIAD
Dosbarth Meistr 'Shwmae Sir Gâr' Masterclass
07 Hydref 2024
10:00
Yr Egin
Dyma gynnig arbennig ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd, blynyddoedd 12a 13 a myfyrwyr addysg bellach i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gan S4C a chwmni cynhyrchu Carlam, bydd yn ffocysu ar greu cynnwys ar gyfer gwefannau cymdeithasol.
Dyma gyfle anhygoel i ddysgwyr ehangu a datblygu eu sgiliau, yn ogystal â chael eu ysbrydol i greu cynnwys gwreiddiol newydd ar gyfer sianel deledu leol, ‘Shwmae Sir Gâr’.
Fe wnaeth Yr Egin ail-lansio 'Shwmae Sir Gâr' ar ei newydd wedd yn ôl ar gychwyn y flwyddyn.Yn ystod y flwyddyn,rydym wedi ymweld â lleoliadau a digwyddiadau ar draws y sir, ac wedi rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fod o flaen a thu ôl y camera.
Fe fydd y dosbarthiadau meistr yma yn cael eu rhedeg gan bobl broffesiynol sydd â phrofiad sylweddol o fewn y sector darlledu yng Nghymru.
Amcanion y Dosbarth Meistr:
•Arbrofi gyda syniadau gwreiddiol
•Dealltwriaeth: Adnabod eich cynulleidfa a’r elfennau sydd angen eu hystyried
•Dealltwriaeth o elfennau amgylcheddol e.e.. ‘Albert’
•Defnyddio technoleg ddigidol
Iaith y dosbarthiadau meistr: Cymraeg (addas ar gyfer dysgwyr)