DIGWYDDIAD

Deian a Loli - Dygwyl y Meirw + Celf a Chrefft

30 Hydref 2024

14:30
Yr Egin
5

Cyfle i'r teulu cyfan fwynhau 'Deian a Loli: Dygwyl y Meirw', ac yna celf a chrefft Calan Gaeaf i ddilyn! 

Deian a Loli: Dygwyl y Meirw 

Mae Deian a Loli yn gyfres am efeilliaid direidus sydd â phwerau hudolus. Gall y plant rewi eu rhieni, gan adael yr efeilliaid yn rhydd i fynd ar bob math o anturiaethau mewn byd uwch-naturiol, lle mai'r unig derfyn yw eu dychymyg. Mae'n Galan Gaeaf ac nid yw Deian a Loli eisiau mynd i barti gyda mam a dad. Ond, gydag ymwelydd ysbryd yn y tŷ does ganddyn nhw ddim dewis ond wynebu eu hofnau a mynd i ddathlu mawreddog Dygwyl y Meirw!

Celf a Chrefft
Byddwn yn creu pwmpenni arbennig gyda sanau! 

*Dim ond ar gyfer eich plentyn / plant mae rhaid archebu tocyn 

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!