DIGWYDDIAD
Sinema Sbesial - Dathlu DH
03 Ebrill 2025
19:00
Yr Egin
Noson i ddathlu Dafydd Hywel (DH) a'i gyfraniad i fyd ffilm a theledu yma yng Nghymru. Cawn ddangosiad arbennig o'r ffilm 1989 - Derfydd Aur gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn yng nghwmni Lisa Marged a Gillian Elisa gyda Dafydd Emyr yn cadeirio.
Am y ffilm -
Mae'r stori yn dechrau yng nghyfnod Beca ar ddechrau'r 19eg ganrif ac yn ymwneud â hanes dau frawd. Mae'r naill yn ffermio a'r llall yn weinidog.Caiff y ffermwr Dai (Dafydd Hywel) ei anfon i Awstralia am 14 o flynyddoedd am chwalu tollborth. Yna, mae ei wraig Becca (Beth Robert) a'i frawd Gwilym (Dafydd Emyr) yn mynd yno i chwilio amdano.