DIGWYDDIAD

'Tounging' - Carys Eleri

22 Mai 2025

19:30
Yr Egin
15

Paratowch ar gyfer 'Tonguing', sioe newydd traws-genre sy’n archwilio cysylltiadau a chyfathrebu, wrth i Carys Eleri ddod â’i brand craff o gomedi’n fyw trwy wyddoniaeth a chaneuon.

Daw’r archwiliad difyr yma o fecaneg yr ymennydd ac ymchwil wyddonol fanwl yn fyw trwy straeon gwallgo, animeiddio hynod a ffrwydrad eclectig o ganeuon sy’n amrywio o electronica i ganeuon ffliwt canoloesol gydag ychydig bach o fetel trwm ar hyd y ffordd, mae 'Tonguing' yn archwilio sut mae cysylltiadau dynol yn llywio popeth, o’n hymennydd i’n cyrff, a sut y gall dibyniaeth gynyddol ar y sffêr ddigidol ein hamddifadu rhag cysylltiadau dynol go iawn.

Galwad yw hi i symud y tu hwnt i’r platfformau ar lein sydd wedi ein hynysu wrth ein gilydd, a hybu’r grefft o sgwrsio, wyneb yn wyneb, gan edrych ym myw llygaid ein gilydd – ‘IRL’. Gyda chyngor Dr Simon Fisher (‘Beyonce niwrowyddoniaeth’ yng ngeiriau Carys), a’r athro Dean Burnett (awdur 'The Happy Brain'), mae Carys – a chreodd 'Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)' - yn dod â 'Tonguing', sioe newydd sbon, i gynulleidfaoedd, ac yn eu harwain ar siwrnai ddigri trwy ryfeddodau hynod a hyfryd y meddwl dynol.

Trafodwch. Tafodwch.

“Carismataidd a bregus, mae Eleri’n plethu jôcs, cerddoriaeth a dirnadaeth o sawl disgyblaeth i greu math newydd o hud a lledrith” - New Scientist
“Mae Carys yn ffrwydro’n gân fel Pavarotti gwrach cariad ein dydd” Upside Adelaide

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!