DIGWYDDIAD
Gweithdy | Workshop: Newyddion Ni
24 Ebrill 2025
10:00
Yr Egin
10yb - 11yb
Dyma gyfle i fwynhau ac i ddysgu mwy am y newyddion a darlledu'r newyddion gan Mared Ifan (BBC)
Byddwch yn dysgu:
- Beth yw’r newyddion?
- Pwy sy'n gweithio o fewn y tîm darlledu a beth yw eu rolau?
- Beth yw 'Newyddion Ni'?
- Beth mae newyddiadurwyr yn gwneud o ddydd i ddydd?
- Sut maen nhw'n penderfynnu pa stori i'w chynnwys?
-
Sut mae cyfweliad teledu yn edrych / gweithio?
Byddwch hefyd yn cael tro ar gynnal cyfweliad / cyflwyno bwletin os hoffech chi!
Mae'r gweithdy yn addas ar gyfer plant a phobl ifanc o flynyddoedd ysgol 5, 6, 7 ac 8.