DIGWYDDIAD
NT Live: A Streetcar Named Desire
05 Mehefin 2025
19:00
Yr Egin
A Streetcar Named Desire
Cyfarwyddwyd gan Benedict Andrews
Gillian Anderson (Sex Education), Vanessa Kirby (The Crown), a Ben Foster (Lone Survivor) sydd yn arwain y cast yng nghampwaith bythol Tennessee Williams, gan ddychwelyd i sinemâu.
Wrth i fyd bregus Blanche ddadfeilio, mae’n troi at ei chwaer Stella am gysur – ond mae ei siwrne anffodus yn dod â hi wyneb yn wyneb â’r creulon, anfaddeugar Stanley Kowalski.
Gan y cyfarwyddwr gweledigaethol Benedict Andrews, cafodd y cynhyrchiad arbennig yma ei ffilmio’n fyw yn ystod rhediad a werthodd mas yn Theatr Young Vic yn 2014.