DIGWYDDIAD

Clwb Digidol - Clic '25 - Tymor 2

03 Mehefin 2025

17:00
Yr Egin
48

Yn galw ar bob disgybl ym mlynyddoedd 7 i 9! 

Ymunwch â ni yng nghlwb Clic pob nos Fawrth rhwng 5yh - 6yh, lle rydyn ni'n darparu'r offer digidol i chi ehangu, datblygu a chreu cynnwys anhygoel. 

Yma, byddwch yn ymchwilio'n ddyfnach i sgiliau digidol, yn rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, ac yn rhyddhau'ch creadigrwydd. Magu hyder i greu eich cynnwys digidol eich hun a'i rannu gyda'r byd.

P’un a ydych wedi mynychu Clwb Asbri ai peidio, mae croeso i chi ymuno â Chlwb Clic.

Ein thema y tymor yma yw ffotograffiaeth. Hyd y tymor yw 6 wythnos, ac mi fydd yna rhywbeth newydd i ddysgu ym mhob sesiwn. 

  

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!