DIGWYDDIAD
Busnes Bwyd - Dangosiad arbennig gyda sesiwn H+A
03 Mehefin 2025
19:00
Yr Egin
DANGOSIAD ARBENNIG
Hoffwn ar ran S4C, Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol a Captain Jac eich gwahodd i ddangosiad arbennig o gyfres newydd ar gyfer S4C Busnes Bwyd.
Mae Busnes Bwyd yn gyfres sydd yn gweld 6 cynhyrchydd bwyd Cymreig yn cystadlu i ennill buddsoddiad o £5,000 i’w busnes yn ogystal â mentora unigryw.
Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y rhaglen gyntaf gyda Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin yn cadeirio. Y gwesteion fydd Catrin Rowlands (cynhyrchydd), a chystadleuwyr ar y rhaglen; Laura Evans, Matthew Rees, Cassius Walker-Hunt, Kristen Billings, Sam Robinson, a Dafydd Williams.
Cyfle i ennill hamper yn cynnwys cynnyrch bwyd y 6 cystadleuydd gwerth £50+
Bydd isdeitlau a chyfieithydd ar gael.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu.