DIGWYDDIAD

Clwb Digidol Asbri - Tymor 1 - 2025/26

09 Medi 2025

16:00
Yr Egin
117

Ymunwch â ni yn Yr Egin ar gyfer Clwb Asbri!

Rydym yn glwb digidol a chreu cynnwys lle mae creadigrwydd yn dod yn fyw.

Rydym yn cyfarfod bob dydd Mawrth o 4-5yp am awr o hwyl a chreadigrwydd. Yn Asbri, byddwch yn dysgu sgiliau ffilmio sylfaenol, hanfodion sut mae'r diwydiant yn gweithio, ac yn cael cyfle i fod yn greadigol.

Ein thema y tymor yma yw ffilma sain Foley. Mae'r tymor yma yn 14 wythnos o hyd, ac mi fydd yn rhywbeth newydd i ddysgu bob wythnos!

Peidiwch â cholli'r cyfle cyffrous hwn i ehangu'ch doniau a chreu gydag eraill!

Mae'r clwb yma ar gyfer bynyddoedd ysgol 4, 5 a 6.

Y tymor hwn mae modd talu'n llawn neu mewn dau rhandaliad cyn i'r tymor gychwyn.

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!