DIGWYDDIAD
Clwb Digidol Clic - Tymor 1 - 2025/26
09 Medi 2025
17:00
Yr Egin
Yn galw ar bob disgybl ym mlynyddoedd 7 i 9!
Ymunwch â ni yng nghlwb Clic pob nos Fawrth rhwng 5yh - 6yh, lle rydyn ni'n darparu'r offer digidol i chi ehangu, datblygu a chreu cynnwys anhygoel.
Yma, byddwch yn ymchwilio'n ddyfnach i sgiliau ffilmio, yn rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, ac yn rhyddhau'ch creadigrwydd. Magu hyder i greu eich cynnwys digidol eich hun a'i rannu gyda'r byd.
P’un a ydych wedi mynychu Clwb Asbri ai peidio, mae croeso i chi ymuno â Chlwb Clic.
Ein thema y tymor yma yw ffilm a sain Foley. Hyd y tymor yw 14 wythnos, ac mi fydd yna rhywbeth newydd i ddysgu ym mhob sesiwn.
Y tymor hwn mae modd talu'n llawn neu mewn dau rhandaliad cyn i'r tymor gychwyn.