DIGWYDDIAD
Clwb Digidol Slic - Tymor 1 - 2025/25
09 Medi 2025
18:00
Yr Egin
Mae Slic ar agor i fyfyrwyr Blwyddyn 10 ac uwch. Rydym yn cyfarfod yn Yr Egin ar nos Fawrth rhwng 6yh a 7yh.
Mae’r clwb yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau digidol a chreu cynnwys i’w rannu ag eraill. Dewch i weld sut mae'r diwydiant yn gweithio a sut i greu llwybr i fod yn rhan ohono.
Slic yw’r cam nesa o Clic, (ond peidiwch â phoeni os nad ydych wedi mynychu Clic), mae’n cynnig y cyfle i chi greu cynnwys gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle am brofiadau gwaith yn y diwydiannau creadigol a dysgu gan y gweithwyr proffesiynol gorau yn y maes.
Ein thema y tymor yma yw film a sain Foley. Mae'r tymor yn 14 wythnos o hyd, ac mi fydd yna rhywbeth newydd i'w ddysgu bob wythnos.
Y tymor hwn mae modd talu'n llawn neu mewn dau rhandaliad cyn i'r tymor gychwyn.