DIGWYDDIAD
NT Live: Live The Fifth Step
27 Tachwedd 2025
19:00
Yr Egin
The Fifth Step
gan David Ireland
Cyfarwyddwyd gan Finn den Hertog
Mae enillydd Gwobr Olivier Jack Lowden (Slow Horses, Dunkirk) yn cael cwmni enillydd Emmy ac BAFTA Martin Freeman (The Hobbit, The Responder) yn y ddrama newydd hynod ddoniol gan David Ireland.
Ar ôl blynyddoedd yn y rhaglen 12 cam o Alcoholics Anonymous, daw James yn noddwr i'r newydd-ddyfodiad Luka. Mae'r pâr yn dod yn ffrindiau dros goffi du, yn trafod straeon ac yn adeiladu cyfeillgarwch bregus o'u profiadau cyffredin. Ond wrth i Luka nesáu at gam pump – eiliad y cyfaddefiad – daw gwirioneddau peryglus i’r amlwg, gan fygwth yr ymddiriedaeth y mae eu hadferiad yn dibynnu arni.
Finn den Hertog sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad pryfoclyd a difyr sy’n cael ei ffilmio’n fyw o Soho Palace yn y West End, Llundain.