DIGWYDDIAD
Sinema Sbesial: Oed Yr Addewid
09 Hydref 2025
19:00
Yr Egin
Oed Yr Addewid (Do Not Go Gentle)
Cyfarwyddwr ac awdur: Emlyn Williams
Cynhyrchydd: Alun Fred Jones
Mae’n fis Mawrth 1997 ac, yn dilyn deunaw mlynedd o reolaeth Dorïaid, mae Prydain yn cyrraedd croesffordd wleidyddol.
Wrth i William Davies gerdded o’i dŷ un bore, mae’n rhoi cynllun anobeithiol a hurt ar waith a fydd yn ennill y blaen ar y system - yn ei dyb ef. Ond aiff pethau o chwith wrth i’r hen ddyn sylweddoli ei fod wedi gwneud camgymeriad ofnadwy.
Wrth i ddiwrnod yr etholiad agosau, mae William Davies a’i deulu’n dysgu ambell i wirionedd – am ei gilydd, ac am eu gwir deimladau am eu cartref.
Cyflwynir gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gefnogwyd gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), drwy gymorth Y Loteri Genedlaethol. Sgan 2K newydd gan R3store Studios, adfer digidol gan Gorilla.
*Is-deitlau Saesneg ar gael*