DIGWYDDIAD
Sinema Sbesial - Beryl, Cheryl a Meryl
21 Tachwedd 2025
19:00
Yr Egin
Ydych chi'n barod am barti yn Tenerife?! Ymunwch â ni ar gyfer noson Sinema Sbesial - Beryl Cheryl a Meryl!
Comedi byrlymus gyda’r dair asiant gwyliau Beryl, Cheryl a Meryl, sef tair o ferched enwocaf Caernarfon,yn mynd ar eu gwyliau i baradwys Tenerife. Dim ond un peth sydd ar feddwl y dair ohonyn nhw – mwynhau, bwyta, yfed a llond gwlad o ddynion! Teithiau BCM - we go ALL the wê!
Ar ôl dechrau gwael i'r gwyliau daw haul ar fryn pan welan nhw Gareth, ond mae’r math o gyffro sydd gan Gareth mewn golwg yn ormod o lawer- hyd yn oedi Beryl, Cheryl a Meryl! A fydd y tair yn dychwelyd nôl yn fyw i Gymru yn dilyn wythnos yn yr haul?
Dyma ffilm o 2009 sy’n llawn cyffro, ffraeo, cyffuriau, herwgipio wedi ei sgriptio gan y digrifwr Tudur Owen.
Ar ôl y dangosiad bydd sesiwn H+A arbennig yng nghwmni 3 o sêr y ffilm sef– Iwan John, Rolant Prys a Tudur Owen – ac yna cyfle i chi fwynhau dawns fach fel petai chi yn y gwesty yn Tenerife yng nghwmni tiwns Band Tom Collins tra’n yfed ambell i Tom Collins o’r bar!
Cofiwch…. Teithiau BCM - We go ALL the we!
AWDUR : Tudur Owen
CAST: Tudur Owen, Iwan John, Rolant Prys, Catherine Ayres, Robert Evans, Johnny Tudor, Geraint Wyn Todd
CYFARWYDDWR: Griff Rowlands
Hyd y ffilm: 76 munud
Noson ar gyfer 18+
*Bydd Y Gegin a'r bar ar agor o 18:00 ymlaen ar gyfer bwyd a diod*