DIGWYDDIAD
Gwersyll Ffilm Yr Haf Broadside Summer Filmmaking Camp (17 - 22)
11 Awst 2025
10:00
Yr Egin
Yn barod i adrodd dy stori – dy ffordd di?
Ymunwch â ni yr haf hwn am bythefnos o ffilmio ymarferol lle byddwch yn ysgrifennu, ffilmio ac yn golygu eich ffilm fer eich hun – yng nghalon De-Orllewin Cymru.
P'un a ydych chi'n codi camera am y tro cyntaf neu eisoes yn creu ffilmiau ar eich ffôn, dyma'ch cyfle i ddysgu'r grefft, darganfod eich llais, a chreu rhywbeth go iawn.
Bydd ein Gwersyll Ffilm Yr Haf 2025 ar gyfer oedrannau 17 - 22 yn cael ei gynnal yn Yr Egin; canolfan greadigol a digidol wedi'i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Mae'r Egin yma i "wasanaethu Cymru, ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, a meithrin talent ar gyfer y dyfodol" - y lle perffaith i gychwyn eich gyrfa gwneud ffilmiau.