DIGWYDDIAD
Amser Stori - Nos Da, Jac Do
29 Hydref 2025
10:00
Yr Egin
Dewch i wrando ar stori newydd Sali Mali ‘Nos da Jac do’!
Ar ôl diwrnod hir o blannu, chwynnu, a dyfrio'r blodau yn yr ardd, mae Sali Mali a Jac Do wedi blino'n lan! Mae'r ddau yn dychwelyd i'r tŷ i baratoi at amser gwely. Ar ôl ymolchi a bwyta swper, mae Sali Mali a Jac Do yn barod i gysgu. Dim ond un problem sydd... mae Jac Do methu cysgu!
Dyma lyfr cyntaf cyfres newydd sbon 'Sali Mali' i blant 0-5 oed.
Bydd y cymeriad ei hun, Sali Mali, yn gwneud ymweliad arbennig.
Yn dilyn y sesiwn stori, bydd gweithgaredd celf a chrefft hwyliog i’r plant.