DIGWYDDIAD
Noson i ddathlu merched mewn chwaraeon antur / An evening celebrating women in adventure sports
12 Tachwedd 2025
18:00
Yr Egin
Ymunwch â ni yn Yr Egin am noson ysbrydoledig yn dathlu menywod mewn chwaraeon antur.
Mae'r digwyddiad dwyieithog hwn yn un cyntaf yng Ngorllewin Cymru sy'n dod â lleisiau o'r celfyddydau, chwaraeon a chymunedau awyr agored ynghyd i archwilio'r profiadau, yr heriau, ac i ddathlu a chysylltu menywod mewn antur yng Nghymru.
Wedi'i gynnal mewn cydweithrediad rhwng Chwaraeon Menywod Cymru, Yr Egin, y Bartneriaeth Awyr Agored a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, bydd y noson yn cynnwys trafodaeth banel amserol, dangosiad ffilm, a chyfleoedd i gysylltu ag eraill sy'n angerddol am chwaraeon a'r awyr agored.