DIGWYDDIAD
Noson Sinema - Tanau'r Lloer (Fires of The Moon) (Cert. TBC)
04 Rhagfyr 2025
19:00
Yr Egin
1950au. Mae awdur yn derbyn newyddion sy’n arwain at iddo fynd ar daith drên brudd yn ôl i’w gartref. Wrth iddo deithio drwy’r nos, mae atgofion yn ail-frigo i’r wyneb, a’r rheini’n ei orfodi i fyfyrio ar ddigwyddiadau a arweiniodd at i’w fam gael ei chaethiwo mewn gwallgofdy rhyw ddeng mlynedd ar hugain ynghynt.
Wedi’i hysbrydoli gan olygfeydd o un o glasuron llenyddiaeth Gymraeg, Un Nos Ola Leuad , a chyda sgôr hudolus o brydferth wedi’i pherfformio gan Gerddorfa Opera Genedlaethol Cymru, mae’r ffilm opera hon yn y Gymraeg yn archwiliad traws-genre o alar, atgof, afiechyd meddwl a grym creadigaeth gelfyddydol.
Yn dilyn y dangosiad bydd sesiwn Holi ac ateb yng nghwmni'r cast a criw - mwy o fanylion i ddod!
*Mae hwn yn ffilm iaith Gymraeg gyda Is-deitlau Saesneg*
