DIGWYDDIAD
NT Live - Hamlet (Dangosiad ysgolion / School screening)
29 Ionawr 2026
10:30
Yr Egin
Hamlet
gan Shakespeare
Cyfarwyddwyd gan Robert Hastie
Enillydd Gwobr Olivier, Hiran Abeysekera (Life of Pi) sy’n portreadu Hamlet yn y fersiwn gyfoes ddi-ofn hon o drasiedi enwog Shakespeare.
Wedi'i ddal rhwng dyletswydd ac amheuaeth, wedi'i amgylchynu gan bŵer a braint, mae'r Tywysog Hamlet ifanc yn meiddio gofyn y cwestiwn eithaf - rydych chi'n gwybod yr un.
Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, Robert Hastie (Standing at the Sky’s Edge, Operation Mincemeat) sy’n cyfarwyddo’r ail-ddychmygiad miniog, steilus a doniol tywyll hwn.
Mae’r dangosiad yma wedi’i fwriadu’n arbennig ar gyfer disgyblion TGAU a Lefel A sy’n astudio drama Shakespeare fel rhan o’u gwaith ysgol. Bydd y dangosiad yn dechrau am 10:30yb, gyda thoriad cinio rhwng12:30 a 1:00yp, ac yn gorffen tua 2:30yp. Mae’r ddrama’n para tua 3 awr a hanner, felly mae egwyl amser cinio wedi’i chynnwys er mwyn i’r disgyblion gael seibiant.
*Mae hwn yn ddangosiad ysgolion yn unig*
*Bydd y dangosiad am ddim i athrawon / cynorthwywyr*
