DIGWYDDIAD
Ledi'r Wyrcws: Un diwylliant, dau fyd
19 Mawrth 2026
19:30
Yr Egin
Mae’n 1955, oes yr NHS newydd, ond mae’r wyrcws yn sefyll o hyd, a rhai o’i drigolion yn garcharorion tlodi ers hanner canrif a mwy.
Daw dwy fenyw o gefndiroedd hollol wahanol wyneb yn wyneb, y naill yn cludo traddodiad a’r llall yn gobeithio diogelu’r traddodiad hwnnw. Ond wrth ganu, recordio a thrafod caneuon gwerin, daw hanes cudd i’r golwg.
CAST - Morfudd Huws, Judith Humphries ac Owen Arwyn
*Capsiynau ar gael*
* Perfformiad iaith Gymraeg*
OED - 14+
