DIGWYDDIAD
Diwrnod gyrfaoedd Creadigol Yr Egin - Ysgolion cyfrwng Cymraeg
16 Ionawr 2026
09:45
Yr Egin
Byddwn yn croesawu nifer o weithwyr proffesiynol o feysydd creadigol amrywiol i rannu eu profiadau, eu sgiliau ac i gynnal gweithdai ymarferol.
Gweithdai’r Diwrnod:
Podlediad – Marc Griffiths, Stiwdio Box.
Dysgwch sut i greu podlediad eich hun – o gynllunio i recordio – a chael profiad uniongyrchol o’r broses greadigol.
Cerddoriaeth / Sain – Steffan Rhys.
Darganfyddwch sut mae cerddoriaeth a sain yn cael eu defnyddio ym myd teledu a ffilm, a chael profiad o recordio a dylunio sain.
Cyhoeddi – Caryl Jones, Peniarth.
Dysgwch sut mae llyfrau’n cael eu creu a’u cyhoeddi – o’r syniad cychwynnol i’r farchnata derfynol.
Newyddiaduraeth–Iwan Griffiths, BBC Cymru.
Dysgwch sut i gyflwyno’r newyddion yn hyderus, dod o hyd i stori dda a gweithio mewn tîm newyddiadurol.
Ffilm – Broadside Films.
Cewch gip tu ôl i’r llenni ar sut mae ffilmiau’n cael eu creu, gan ddysgu am gamerâu, sain a’r broses gynhyrchu.
Manylion Ymarferol
- Amseroedd: 9:45am – 2:30pm
- Lleoliad: Yr Egin, Caerfyrddin
- Bydd angen dod â bocs bwyd.
- Agored i hyd at 120 o ddisgyblion Blwyddyn 10.
- Digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
