DIGWYDDIAD
Creative Careers day at Yr Egin - English medium schools
26 Ionawr 2026
09:45
Yr Egin
Bydd y diwrnod yma yn cynnig gweithdai creadigol cyffrous dan arweiniad arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol, ond trwy gyfrwng y Saesneg.
Gweithdai’r Diwrnod:
Gweithdy Podlediad – Marc Griffiths, Stiwdio Box
Dysgwch sut i ddylunio, sgriptio a recordio eich podlediad eich hun mewn amgylchedd stiwdio go iawn gan ddefnyddio offer proffesiynol.
Gweithdy Cerddoriaeth – Steffan Rhys
Camwch i fyd dylunio sain ffilm! Creu eich effeithiau sain eich hun a darganfod sut mae sain yn gwella naratif stori.
Gweithdy Cyhoeddi – Caryl Jones, Beniarth
Breuddwydiwch am ddod yn awdur neu ddarlunydd? Dysgwch sut mae llyfrau yn cael eu creu a’u marchnata — o’r syniad cyntaf hyd at gyhoeddi.
Gweithdy Ffilm – Broadside Films
Ewch tu ôl i'r llenni i gael profiad ymarferol gyda chamera a sain er mwyn dod i ddeall sut mae cynhyrchu ffilm.
Gweithdy Adobe – Meredudd Jones
'Creu Ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol gydagAdobeExpress'
Dewch i arbrofi gydagAdobeExpress er mwyn creu cyfres o bostiadau bachog ar gyfer ymgyrch cyfryngau cymdeithasol.
Defnyddiwch sgiliau creadigol, digon o ddychymyg, ac ychydig o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth gynhyrchu dyluniadau, animeiddiadau a fideos!
Manylion Ymarferol
- Amseroedd: 9:45am – 2:30pm
- Lleoliad: Yr Egin, Caerfyrddin
- Bydd angen i’r disgyblion ddod â bocs bwyd.
- Agored i ddisgyblion Blwyddyn 10.
- Digwyddiad drwy gyfrwng y Saesneg.
