DIGWYDDIAD
WALDO - Mewn Cymeriad
30 Ionawr 2026
19:30
Yr Egin
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i fro’r Garreg Las yn 2026, mae’n addas bod cwmni Mewn Cymeriad yn talu teyrnged i waith a bywyd un o blant amlycaf yr ardal honno, sef y bardd a’r ymgyrchydd heddwch Waldo Williams.
Yn y cyflwyniad hwn, cawn gip ar y cwlwm tynn rhwng profiadau ei fywyd, delfrydau ei athroniaeth a’i gerddi ac ystyried mor berthnasol yw ei eiriau i’n dyddiau ni.
Ymunwch gyda ni yn Yr Egin ar gyfer noson agoriadol y sioe.
Awdur - Mererid Hopwood
Cyfarwyddwr - Janet Aethwy
Actor - Ryland Teifi
