DIGWYDDIAD

Y Bugail Geifr

Archebu

11 Tachwedd 2026

19:30
Yr Egin
15Archebu

Mae Bara Caws yn Hannar Cant oed! Meddyliwch be’ mae’r Cwmni hynod yma wedi ei roi i ni fel cenedl ar hyd y blynyddoedd. Y difrifoldeb, yr herio, y diddanwch, yr hwyl. Oriau bwy gilydd o ddangos ni ein hunain i ni ein hunain. A sioc yr hunan-adnabyddiaeth yna ambell dro.

Sut i ymateb i hyn. Fyny i chi. Ond ymatebwch.

Fy ymateb i yw Y Bugail Geifr. Pryddest, dwi wedi ei galw hi. Ar ffurf monolog. Ei hunig bwrpas hi yw talu gwrogaeth ddiflewyn ar dafod i’r Cwmni oddi wrtha i yr wyf wedi cael y fraint o ysgrifennu sawl sioe iddo. Deud Diolch ydy’r unig nod. Ond mewn ffordd sy’n gwneud i ni holi’r cwestiwn: Be’ ydy’ calon theatr? Mae’n gân o fawl i’r theatr hefyd.

A chael Dyfan Roberts i actio! Un o dadau’r cwmni. Erbyn hyn i lais actor arbennig y byddai’n sgwennu. Llais Dyfan sy’n hydreiddio hon. Ond hefyd lleisiau eraill sydd wedi cyfrannu i fywyd y Cwmni

Mae Y Bugail Geifr yn llawn ysbrydion. Un actor… ond yn drybola o bobol.

Aled Jones Williams

Dyma ddrama theatr olaf y cawr o ddramodydd Aled Jones Williams sydd wedi bod yn rhan o’r tirlun theatrig yma yng Nghymru ers dros dair degawd.

Ei drysor olaf? Anrheg i Theatr Bara Caws wrth iddyn ni ddechrau ar ddathliadau pen-blwydd 50 oed.

Drama wedi ei hysgrifennu’n arbennig i Dyfan Roberts, un o sylfaenwyr y Cwmni nol yn 1976/77.

Ffion Dafis

Cast : Dyfan Roberts

Cyfarwyddo : Betsan Llwyd

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion Yr Egin. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!