DIGWYDDIAD

Te Angladd

Archebu

11 Mawrth 2027

19:30
Yr Egin
16 - 18Archebu

Cynhyrchiad Theatr Cymru, mewn cydweithrediad â Galeri Caernarfon.


Te Angladd gan Gruffudd Owen

‘Da chi'n gwybod bod chi'n mynd yn hen pan ‘da chi’n cael eich gwahodd i lai a llai o briodasau ac yn dechrau hel angladdau...

Ar ôl blwyddyn o gyfleoedd coll a thecsts ganol nos, mae llwybrau Lowri ac Idris yn croesi unwaith eto... mewn angladd. Tra bod Lowri’n rhygnu byw ar y fferm ym Mhen Llŷn, mae Idris yn suddo i’w unigedd yn ei dŷ teras tamp yng Nghaerdydd. Ond ar ôl marwolaeth annisgwyl, mae’n rhaid i’r ddau ohonyn nhw wynebu gwirioneddau mawr am eu dyfodol a gofyn y cwestiwn, “be ‘dw i isio go iawn?”

Emynau, teyrngedau a chladdu brechdanau, mae Te Angladd gan Gruffudd Owen yn ddrama gomedi newydd am gariad, galar a gwirioneddau cudd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Parti Priodas, mae Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies yn dychwelyd fel Lowri, Idris a’r holl gymeriadau eraill, gyda’r cyfarwyddwr Rhian Blythe wrth y llyw.  

Dyma ffarwel i’w gofio!

Canllaw Oed: 16+

Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed yn cynnwys dibyniaeth ar alcohol a galar.

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion Yr Egin. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!