DIGWYDDIAD
Melyn yn Cyflwyno... / Melyn Presents...
Archebu29 Hydref 2026
18:30
Yr Egin
Estynnir croeso cynnes i chi i ddigwyddiad ffilm arbennig, yn rhad ac am ddim ar Hydref 29.
Trefnwyd y noson gan Aled Owen o Melyn Pictures, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.
Bydd Melyn yn Cyflwyno... yn gasgliad o ffilmiau byr arswydus a grëwyd gan wneuthurwyr ffilm annibynnol o Gymru. Bydd sesiwn Holi ac Ateb gyda rhai o’r gwneuthurwyr ffilm, er mwyn cael gwybod mwy am y cynyrchiadau.
Mae'r ffilmiau yn addas ar gyfer oedolion (18+).
Bydd y drysau’n agor am 6:00pm, gyda’r digwyddiad yn dechrau am 6:30pm yn Stiwdio Fach yr Egin.
