Yr Egin yn ‘Blaguro’ unwaith eto.

Agorwyd drysau Canolfan S4C yr Egin yng Nghaerfyrddin i’r cyhoedd am y tro cynta’ ers dros flwyddyn dydd Sadwrn diwetha’, Ebrill 24ain, pan gynhaliwyd digwyddiad i deuluoedd fel rhan o weithgareddau'r prosiect ‘Blaguro’.

Mae’r prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, am sefydlu gardd gymunedol ar dir Yr Egin, gyda’r bwriad o gyfuno gwaith ymarferwyr creadigol gyda grwpiau cymunedol.

Y grwpiau cymunedol sydd wrth wraidd y prosiect yw DrMz Caerfyrddin, teuluoedd Gwneud Bywyd yn Haws dan arweiniad Hanna Hopwood Griffiths, Sir Gâr 50+, Greenspace dan arweiniad Dorothy Morris, Tŷ Hapus a Myfyrwyr BA Drama Gymhwysol: Addysg Lles Cymuned yn y Brifysgol. Bydd cyfle ehangach i eraill ymuno drwy weithgareddau cyhoeddus fel yr un cynhaliwyd dydd Sadwrn.

Un elfen o’r prosiect yw i dyfu llysiau a blodau yn yr ardd gymunedol mewn cydweithrediad â’r caffi yn Yr Egin, ac felly cynhaliwyd gweithdai plannu am ddim gyda phlant y dalgylch i ddechrau’r fenter gyffrous hon. Bu’r plant wrthi’n ddyfal yn helpu i blannu hadau llysiau mewn potiau ar gyfer eu tyfu yn hwyrach ar dir yr Egin, yn ogystal â dysgu sgiliau garddio. Rôl Yr Egin yw ysgogi creadigrwydd yn y rhanbarth ac yn genedlaethol ac mae’r gymuned leol yn rhan hanfodol o’r datblygiad ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cyfrannwyd yr hadau ar gyfer prosiect “Blaguro” gan Tyfu’r Dyfodol - Growing the Future sy’n brosiect gan yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’r compost gan Merlin’s Magic.

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin: 

“Cynlluniwyd prosiect Blaguro fel ffordd o ail-gysylltu gyda chymunedau tref Caerfyrddin gan geisio bod mor gynhwysol â phosibl. Mae’r cyfnodau clo wedi dangos mor bwysig yw ein mannau gwyrdd ar gyfer lles ac iechyd meddwl ac wedi adfywio diddordeb pobl ym myd natur. Rydym yn Yr Egin yn awyddus i rannu ein gofodau gwyrdd gyda’r gymuned yn enwedig rheiny sydd heb ardd yn ddihangfa neu sydd eisiau ychydig o gyngor ar sut i dyfu llysiau. Bydd ‘Blaguro’ hefyd yn rhoi cyfle i greadigrwydd yn llythrennol fagu gwreiddiau a blaguro, yn gyfle i ddod â phobl at ei gilydd i gydweithio, yn ogystal â chreu gofod sy’n cynnig cysur, noddfa a phrofiad creadigol i gynulleidfa yn yr awyr agored”. 

“Gwnaeth digwyddiad dydd Sadwrn ddod â gwen a rhyddhad i nifer fawr o bobl wrth i ni unwaith yn rhagor agor ein drysau a chroesawu teuluoedd yn ôl i’r ganolfan. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld yr holl grwpiau cymunedol yn dod yma yn eu tro ac i weld beth maent yn creu ar y cyd â’r ymarferwyr creadigol.”

Lisa Fearn bu’n arwain y gweithdy plannu ar gyfer yr ardd gymunedol ddydd Sadwrn, ac mae’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu. “Mae Blaguro yn brosiect sydd yn dod â grwpiau gwahanol o’r gymuned at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd. Mae’n gyfle i dyfu llysiau, ffrwythau a blodau ar y safle a fydd yn cael ei defnyddio yng Nghegin y Sied dros y misoedd nesa.”

Manteisiwyd ar y cyfle hefyd i ail agor caffi’r Egin dan denantiaeth newydd. Braf yw medru cyhoeddi mai Lisa Fearn a’i chriw fydd yn gyfrifol am redeg caffi ‘Y Sied @ Yr Egin’ gyda Josh Fearn a Llew Charles yn gyfrifol am redeg y caffi o ddydd i ddydd. ‘Y Sied @ Yr Egin’ café with Josh Fearn and Llew Charles responsible for the day-to-day running of the café.

Mae Lisa yn edrych ymlaen at yr her: “Mae hon yn fenter newydd i’r Sied - o’r ysgol goginio a garddio yn Felinwen, i’r Sied Goffi yn y dre, ry’n ni’n ehangu i’r Egin, gan gynnig yr un math o fwyd a diodydd, prydau ysgafn iachus a salad i’n cwsmeriaid. Mae’n gaffi cyfleus iawn gyda digon o le i barcio i rheiny sy’n teithio yn ogystal â mewn tafliad carreg i nifer o stadau o dai a bydd croeso cynnes i bawb sy’n gweithio o adre ac yn haeddu brêc ddod draw am baned neu ginio. Yn ogystal rydym yn edrych ymlaen at weini cymuned greadigol Yr Egin, myfyrwyr a staff y Brifysgol.”

Bydd y caffi yn ail agor yn swyddogol ddydd Iau, Ebrill 29ain dros gyfnod cinio rhwng 11 a 2 i ddechrau ac yna’n raddol byddant yn ymestyn ar ei horiau. Y bwriad wrth i gyfyngiadau llacio bydd ehangu’r cynnig er mwyn i bobl fedru dod i gymdeithasu dros baned o de neu wydraid o win a mwynhau mwy o weithgareddau yn Yr Egin.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Egin a phrosiect ‘Blaguro’, e-bostiwch helo@yregin.cymru 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y caffi gan gynnwys oriau agor, ewch i wefan a chyfryngau cymdeithasol Yr Egin 

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!