Noson ‘Drws Agored’ cyntaf erioed wedi ei gynnal yng Nghanolfan S4C Yr Egin

Ar nos Fawrth, y 19eg o Fehefin, cynhaliwyd y noson ‘Drws Agored’ cyntaf erioed yng Nghanolfan S4C yr Egin. Dyma noson o agor drysau’r Egin i ddangos i bobl ifanc Sir Gâr beth yn union sydd ar gael iddynt o ran cyfleoedd, profiadau a swyddi ym myd y Diwydiannau Creadigol, a hynny ar eu stepen drws. Bu yna gyfle i ddod i adnabod staff Yr Egin a’r gymuned greadigol sydd wedi eu lleoli yma, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai a sesiynau trafod gydag arbenigwyr yn y maes. Roedd y noson yn targedu pobl ifanc o flynyddoedd ysgol 9 – 13 a’u rhieni / gwarchodwyr. 

Dywed Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin, 

“Mae meithrin talent yn elfen bwysig tu hwnt o waith Yr Egin, mae’r sector diwydiannau creadigol ar dwf yn y rhanbarth a thrwy Gymru gyfan ac rydym yn awyddus i bobl ifanc wybod am y llwybrau gyrfa a chyfleon amrywiol sydd ar gael iddynt yn y maes. Diolchaf yn ddiffuant i holl gwmniau cymuned greadigol Yr Egin am gynnal gweithdai a sgyrsiau difyr a phwrpasol ac edrychaf ymlaen at gynnal Drws Agored fel digwyddiad blynyddol a chroesawu mwy o bobl ifanc yma i fanteisio ar y ganolfan.” 

Mari Grug, cyflwynydd teledu a radio, oedd y siaradwraig gwadd ar y noson, ac fe gafwyd mewnwelediad bendigedig i’r diwydiannau creadigol o wrando ar sgyrsiau rhwng Cara Walters (myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe) â Gwennan Campbell (Newyddiadurwraig ITV), Euros Llŷr (Carlam) a Catrin Rowlands (Capten Jac). Arweiniwyd gweithdai arbennig gan Screen Alliance Wales, S4C, Theatr Genedlaethol Cymru, Coleg Sir Gâr, Boom Cymru, Rural Office Wales, Peniarth a’r cerddor Steffan Rhys Williams. 

Trefnwyd y noson mewn cydweithrediad gyda Gyrfa Cymru a thîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn ogystal â chyfleoedd i sgwrsio â nhw fel sefydliadau, roedd gan fyfyrwyr a’u rhieni / gwarchodwyr a wnaeth fynychu’r noson gyfle i fwynhau cerddoriaeth y DJ Branwen Munn a chyfle i flasu moctêls gorau caffi Yr Egin – ‘Y Gegin’!  

Roedd y profiad cyflawn a gynigwyd ar y noson yn un gwerthfawr yn ôl y teulu Lewis, 

“Mi roedd yn noson hyfryd, llawn amrywiaeth o weithdai difyr ac yn sicr wedi bod yn ddechrau llwyddiannus i daith gyrfaoedd Ifan, fy mab, sydd ym mlwyddyn 10” meddai Ann-Marie, ac fe ychwanegodd ei mab, Ifan, 

“Mi wnes i wir fwynhau'r gweithdy cerdd gyda Steffan Rhys Williams a hefyd dysgu am waith cwmnïoedd Carlam a Capten Jac. Noson grêt sydd wedi fy helpu llawer.” 

Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Yr Egin bu wrth y trefnu, a dywedodd 

“Fel canolfan ddigidol a chreadigol yng Nghaerfyrddin, rydym yn cydnabod arwyddocâd cynnal digwyddiadau fel hyn i feithrin amgylchedd cynnes a chroesawgar i’n pobl ifanc. Mae’n hanfodol iddynt archwilio’r ystod o gyfleoedd sydd ar gael yma a sicrhau eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn dychwelyd i’r ganolfan. Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn lleisiau ifanc a’u syniadau creadigol yn fawr, a rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle gwerthfawr i ni ymgysylltu â nhw. Mae ein drws wastad ar agor, ac os hoffai person ifanc yn yr ardal sgwrs am gyfleodd posib, plîs cysylltwch â mi.” 

Roedd y noson yn dilyn dau ddiwrnod llwyddiannus o gynnig gweithdai a sgyrsiau a oedd hefyd yn ymwneud â chyfleoedd a phrofiadau yn y meysydd creadigol i ysgolion o Sir Gâr sef Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Ysgol Gyfun y Strade, Ysgol Bro Dinefwr ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth. Croesawyd dros 160 o bobl ifanc i’r Egin yn ystod y gweithdai dydd a nos. Mae Canolfan S4C Yr Egin yn edrych ymlaen at ddatblygu’r digwyddiadau pwysig yma dros y flwyddyn nesa’. 

Os ydych chi â diddordeb mewn dysgu mwy am ddyddiadau agored gall Yr Egin gynnig i’ch pobl ifanc, cysylltwch gyda ni ar helo@yregin.cymru. 

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!