Mae un o gyn fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi agor swyddfa newydd i'w gwmni yng Nghanolfan S4C Yr Egin.
Llun Teulu Carlam (o'r chwith i'r dde) : Neve Austin - Davies (Ymchwilydd), Artie Thomas - (Rheolwr Cynhyrchu), Euros Llŷr Morgan (Perchennog), Wil Williams (Golygydd a Chamera)
Penderfynodd y cynhyrchydd ifanc 24 mlwydd oed Euros Llŷr Morgan sy’n berchennog ar gwmni cynhyrchu Carlam, symud i Ganolfan S4C Yr Egin sydd wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin er mwyn bod yn rhan o gymuned sy’n ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg.
Meddai Euros, “ Wrth i gwmni Carlam dyfu a datblygu, roeddwn yn ymwybodol byddai cael swyddfa yn Yr Egin yn agor drysau i mi. Ers symud yma, dwi wedi llwyddo i greu nifer o gysylltiadau newydd sydd wedi dod a chyfleoedd gwaith ychwanegol i mi yn ogystal. Mae’r Egin yn leoliad sy’n fy ngalluogi i ddatblygu, ac i ddysgu rhywbeth newydd pob dydd. Rwy’n hynod o ddiolchgar i’r Brifysgol, i Ganolfan S4C Yr Egin ac i bawb sydd wedi fy helpu i fedru gwireddu hyn o'r cwmnïau i'r unigolion– yn enwedig Amanda Harries, Artie Thomas a Rowena Griffin. Hebddyn nhw ni fyddai wedi bod yn bosib i Carlam dyfu i le mae erbyn hyn”
Mae’r Egin yn darparu cyfuniad delfrydol o gyfleusterau, cysylltedd ac anodau o’r radd flaenaf gan gynnwys cyfleusterau sgrin werdd a dethol lluniau, ffrydio byw, recordio cerddoriaeth a throsleisio ynghyd â mannau desgiau poeth a chysylltiadau helaeth o fewn cymuned greadigol y rhanbarth.
Mae cysylltiad Euros â’r Drindod Dewi Sant yn dyddio nôl i 2015 pan oedd yn astudio’r cwrs BA Perfformio. Llwyddodd y cwrs i ddatblygu ei hyder ac i ddarparu cysylltiadau gyda phobl o’r diwydiant.
“Bu’r cwrs BA Perfformio yn gyfle perffaith i mi fedru gwireddu fy mreuddwyd i weithio ym myd y cyfryngau. Yn ystod fy mlwyddyn ola’, fe wnes i gynhyrchu dogfen ar gyfer fy mhrosiect personol am filfeddygon ceffylau, a oedd yn cyfuno elfennau o’r modiwlau Ffilm a Theledu a Throsleisio o’r cwrs. Ar ôl cwblhau’r prosiect, cefais fy annog i ‘bitsio’r’ syniad i’r BBC, a bues i’n ddigon ffodus o ennill fy nghomisiwn cynta’. Mae’r gyfres ‘Only Foals and Horses’ erbyn hyn yn cael ei werthu i sianeli yn fyd eang. Diolch i’r cwrs am fy ngalluogi i wneud hyn, ac i’m hannog i ddechrau cwmni Carlam.”Only Foals and Horses’ has now been sold to channels worldwide. I am indebted to the course for enabling me to do this, and for encouraging me to start my company, Carlam.”
Cychwynnodd dyhead Euros i weithio ym myd y cyfryngau yn 2012 tra’n rhedwr yng nghylch y ceffylau ar gyfer rhaglenni S4C o’r Sioe Frenhinol ac mae’n angerddol ynglŷn â chynnig profiadau i bobl ifanc ddatblygu a chael profiadau trwy Carlam. Ers i gwmni Carlam agor swyddfa yn Yr Egin, mae nifer o staff ifanc o Orllewin Cymru wedi ymuno â’r tîm i gynorthwyo Euros gyda gwaith ymchwil, saethu a golygu.
Mae tipyn o lwyddiant cwmni Carlam wedi deillio o gefndir Euros yn bridio Merlod a Chobiau Cymreig er enghraifft ‘The City of Horses’ – rhaglen wefreiddiol sydd newydd ymddangos ar BBC One Rhwydwaith sy’n dilyn cymeriadau unigryw Cwm Abertawe sy’n cadw ceffylau, heb anghofio’r cynhyrchiad artistig am y broses o greu’r cerflun unigryw o’r cobyn Cymreig ar Faes y Sioe yn Llanelwedd ‘Siwrne’r Bedol’, a’r rhaglen ddirdynnol yn dilyn ymgymerwr yn ystod y cyfnod clo ‘Drych: Galar yn y Cwm’ ar gyfer S4C.
Dros y tri mis diwethaf, mae Euros wedi bod yn hynod o brysur yn cynhyrchu a pharatoi deunydd ar y cyd gyda Yr Egin ar gyfer y platfform teledu lleol newydd ‘Shwmae Sir Gâr’ sydd i’w gweld ar y cyfryngau cymdeithasol.
O sefydlu busnes ei hun, cynhyrchu comisiynau llwyddiannus i logi swyddfa a chyflogi staff, mae’r hyn mae Euros wedi’i gyflawni mewn cyfnod byr o amser ers iddo raddio yn dangos brwdfrydedd, mentergarwch ac ysfa i lwyddo ym myd y cyfryngau, a hynny drwy aros yn Ne Orllewin Cymru.
Ychwanegodd Euros,
“Dim Euros yw Carlam erbyn hyn, ond tîm o bobl hollol anhygoel, ac rwy’n edrych ymlaen at weld teulu Carlam yn datblygu a thyfu dros y misoedd nesa’.”
Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin:
Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin, “Cydleoli cwmnïau creadigol a digidol oedd nod sefydlu’r Egin ac mae’n bleser mawr croesawu cwmni arall i ymuno â'r gymuned sydd yma eisoes. Rwy’n sicr y bydd Carlam yn ychwanegu at gyffro’r ganolfan ac mae’n braf iawn gweld cwmni cynhyrchu’n llwyddo ac yn mentro yn ystod y cyfnod heriol yma. Mae Euros wedi cael llwyddiannau arbennig yn y cwta 3 mlynedd ers sefydlu Carlam ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut bydd y cwmni yn datblygu tua’r dyfodol”.