Gwd Thing : Sir Benfro! – Creu Cynnwys Ddigidol Newydd i Gymunedau Creadigol y Sir.

Mae Yr Egin, canolfan greadigol a digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn falch o lansio Gwd Thing : Sir Benfro! – prosiect newydd uchelgeisiol fydd yn rhoi llais digidol i gymunedau ledled Sir Benfro, gan feithrin talent, hyder a chreadigrwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

a girl in front of a green screen

Building on the success of “Shwmae Sir Gâr” in Carmarthenshire, Gwd Thing: Sir Benfro! Gan adeiladu ar lwyddiant “Shwmae Sir Gâr” yn Sir Gaerfyrddin, bydd Gwd Thing : Sir Benfro! yn datblygu sgiliau yn lleol er mwyn creu cynnwys gwreiddiol a dathlu’r gorau o greadigrwydd, treftadaeth a bywyd cymunedol y sir. Bydd y cynnwys yn amrywio o gyfweliadau ag artistiaid, perfformiadau cerddorol a straeon cymunedol, ac mi fydd yn cael ei rannu ar lwyfannau poblogaidd megis TikTok, Instagram, Facebook a YouTube, trwy lygaid y trigolion lleol.

Mae’r prosiect, Gwd Thing: Sir Benfro wedi derbyn £49,952 gan Lywodraeth Prydain drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddosberthir gan Gyngor Sir Penfro , ac mae’n cynnig cyfleoedd ymarferol i bobl ifanc ac artistiaid ar draws y sir ddatblygu sgiliau yn y diwydiannau creadigol. 

Galwad am Crëwyr Cynnwys!

Mae Gwd Thing : Sir Benfro! yn chwilio am 6 Crëwr Cynnwys brwdfrydig, egnïol a chreadigol i ymuno â’r rhaglen gyffrous sy’n cyfuno hyfforddiant, mentora a chreu cynnwys gyda chyfle unigryw i gydweithio’n agos â chymunedau, grwpiau ac artistiaid lleol.

Bydd cyfranogwyr yn derbyn hyfforddiant mewn creu cynnwys digidol, marchnata creadigol a gwaith cymunedol, cyn defnyddio’r sgiliau hynny i gynhyrchu cynnwys ystyrlon ar gyfer sianelau cymdeithasol a darparu gweithdai creadigol yn eu cymunedau.

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n:

  • Passionate about telling local stories and enjoy working with people
  • Social media savvy and confident in sharing video content, photos and creative ideas
  • Possesses good spoken Welsh skills
  • Able to travel independently within the county
  • Eager to learn, be mentored and experiment with new ideas

Bydd y rôl yn cynnwys:

  • Attending training and mentoring sessions between July and October 2025
  • Creating video and digital content for social platforms (e.g. Instagram, TikTok, Facebook)
  • Holding creative workshops with community groups, organisations or local artists
  • Sharing local stories, events and experiences in an accessible, appealing and creative way

Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau i fod yn Grewr Cynnws ar y prosiect yw 14 Gorffennaf gyda manylion llawn ar wefan Yr Egin.

Bydd y prosiect yn cydweithio gyda sefydliadau megis Menter Iaith Sir Benfro, Span Arts, Coleg Sir Benfro ac ysgolion uwchradd lleol, gan gyd-fynd ac ategu gweithgarwch cyfredol. Yn wahanol i unrhyw wasanaeth arall yn y sir, mae Gwd Thing : Sir Benfro! yn gosod y Gymraeg a’r diwydiannau creadigol wrth wraidd ei weledigaeth.

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin: 

“Ni’n gyffrous tu hwnt ynglyn â gweithio yn fwy dwys yn Sir Benfro ac yn falch iawn bod y Cyngor wedi gweld potensial Gwd Thing : Sir Benfro! Un o amcanion Yr Egin yw i greu buddiannau ieithyddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol yn y de orllewin a rhagwelaf drwy’r prosiect yma a’r cydweithio gyda phartneriaid yn ogystal â’r gwaith o ddatblygu rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol bydd gweld gwireddu hynny ymhellach. Mi fydd yna waddol clir i Gwd Thing : Sir Benfro! gyda codi statws y llu o weithgareddau creadigol a’r Gymraeg, datblygu sgiliau cymunedau ledled Sir Benfro a hefyd codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd gan Yr Egin I’w gynnig o ran adnoddau, cysylltiadau ac arbenigedd”.

Yn ogystal â meithrin cysylltiadau newydd, bydd y prosiect yn cryfhau gwead cymdeithasol y sir, annog cyfranogiad cymunedol mewn gweithgareddau diwylliannol, ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd creadigol ac yn sicrhau cynrychiolaeth amrywiol o bobl a lleisiau’r sir.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: lowri.thomas@uwtsd.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!