Yr Egin i gynnal Gŵyl Ffilm Antur newydd

Fe fydd Canolfan S4C Yr Egin yn croesawu’r gwanwyn wrth lwyfannu Gŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin. Fe’i cynhelir yng Nghaerfyrddin ar 20-23 Mawrth yn y ganolfan sydd â’r nod o wasnaethu Cymru, tanio ei dychymyg creadigol a meithrin talentau’r dyfodol.

Yn ddigwyddiad arloesol, wedi ei lleoli yn y gorllewin, fe fydd yr Ŵyl Ffilmiau Antur yn agored i bawb, boed yn anturiaethwyr brwd, yn unigolion sy’n mwynhau chwaraeon awyr agored neu’n anturiaethwyr tywydd teg sy’n gwerthfawrogi stori dda.

Nod yr ŵyl yw dathlu’r gorau o blith yr anturiaethwyr a’r crewyr cynnwys sy’n dangos y byd antur ar ei gorau. Fe fydd y ffilmiau’n cael eu dangos ar y sgrin fawr yn yn y theatr yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn ystod yr ŵyl.

Yn ŵyl wyneb yn wyneb ac ar-lein, wedi ei hariannu gan Ffilm Cymru, fe fydd cyfle i westeion fwynhau detholiad o ddangosiadau ffilm a sgyrsiau, yn ogystal â chlywed gan arbenigwyr yn y maes.

Ymhlith y siaradwyr gwadd y mae Tori James – Y Gymraes gyntaf erioed i ddringo Mynydd Everest, Mari Huws – warden Ynys Enlli a Huw Erddyn – Cyfarwyddwr Teledu Cwmni Da.

Cefnogir diwrnod agoriadol yr ŵyl, Mercher 20fed Mawrth, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe fydd yn gyfle i fyfyrwyr prifysgolion a cholegau ledled y wlad ddod ynghyd ar gyfer cynhadledd antur a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar sut mae ymateb i heriau’r hinsawdd.

Trwy gydol yr ŵyl fe fydd dangosiadau o ffilmiau arloesol gan anturiaethwyr a chwmnïau arbennig megis Coldhouse Collective, Summit Fever Media a Cwmni Da, yn ogystal â chyfle unigryw i fynychu gweithdai ffilm i ddysgu hanfodion beth sy’n gwneud ffilm wych.

Un o agweddau mwyaf cyffrous yr ŵyl i anturiaethwyr uchelgeisiol, boed yn wneuthurwyr ffilm, myfyrwyr, ysgolion, unigolion creadigol neu’n grwpiau cymunedol, yw’r cyfle i gyflwyno gwaith newydd yng nghystadleuaeth Gŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin.

Fe fydd panel feirniadu yn gwylio’r holl ffilmiau a gyflwynwyd i Wŷl Antur Yr Egin ac yn gyfrifol am gyflwyno enillwyr ar gyfer y categorïau canlynol:

1. Ysbryd Antur

2. Ymateb i heriau hinsawdd

Bydd y gystadleuaeth yn agored i ffilmiau o unrhyw fath a hyd sy’n gystylliedig a’r categorïau uchod.

Ymhlith y gwobrau y bydd Y Ffilm Artistig Gorau, Y Trac Sain Gorau, Y Ffilm Gorau yng Nghymru a’r Ffilm Gorau Tu Hwnt i Gymru.

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Gwener 23 Chwefror ac fe fydd enillwyr yr holl gategorïau yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ŵyl.

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin;

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael cyhoeddi ein bod ni’n paratoi at Ŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin.

Mae gorllewin Cymru yn ganolbwynt i chwaraeon awyr agored a pha le gwell i gynnal gŵyl o’i math nag yma yng Nghanolfan S4C Yr Egin.

“Yn ogystal â chroesawu nifer o anturiaethwyr profiadol Cymru i’r ŵyl i rannu eu profiadau gyda’r gynulleidfa, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld gwaith newydd gan ddarpar anturiaethwyr a chynhyrchwyr ffilm.

“Dyma gyfle arbennig i ni ddathlu ac ymhyfrydu yn ein talent lleol a roi sylw haeddianol i’n tirwedd a’n anturiaethwyr ar y sgrin fawr.”

Fe fydd tocynnau i’r ŵyl ar werth yma o ddydd Iau 1 Chwefror.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!