Mae Llais Caerfyrddin 2022 yn chwilio am artistiaid i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai gyda’r cyhoedd yng Nghaerfyrddin yn ystod Gorffennaf ac Awst 2022. Rydym yn chwilio am amrywiaeth o artistiaid, beirdd, storiwyr ac ymarferwyr o wahanol gefndiroedd, meysydd ac ar wahanol bwynt yn eu gyrfa i gymryd rhan.
Rydym eisiau i Gaerfyrddin fod yn un o drefi hapusaf a mwyaf llewyrchus Cymru ac rydym am weithio gydag artistiaid i helpu ni i ddarganfod beth sydd fwyaf pwysig i bobl yr ardal.
Os oes diddordeb gyda chi i fod yn rhan o dîm yn gweithio i roi llais i grwpiau gwahanol o’r gymuned, anfonwch eich CV gyda llythyr neu fideo i gyflwyno eich hunan i ni, erbyn 19 Mai.
Ebost - eshaw@peoplespeakup.co.uk
Mae Llais Caerfyrddin 2022 yn cael ei ariannu gan LocalMotion gyda’r bwriad o ddatblygu syniadau newydd, radical a gwreiddiol i roi hwb i’r gymuned leol.
LocalMotion yn cael ei ariannu gan City Bridge Trust, Esmée Fairbairn Foundation, Lankelly Chase, Lloyds Bank Foundation, Paul Hamlyn Foundation, Tudor Trust