Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi cael pecyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.
Maent yn un o’r sefydliadau cyntaf yn y wlad i elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur eleni.
Bydd Yr Egin yn creu gardd tyfu bwyd ar dir y ganolfan. Mae’r planhigion, offer a’r deunyddiau i gyd yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim gan Cadwch Gymru’n Daclus. Bydd y pecyn yn gyfle gwych i Yr Egin fedru arwain yn lleol drwy ddangos arferion da i’r amrywiaeth o grwpiau cymunedol sy’n cydweithio gyda’r ganolfan.
Drwy gydweithio gyda un o brosiectau presennol Yr Egin, ‘Blaguro’, bydd y pecyn yn fodd o allu ehangu’r prosiect hwnnw drwy gynnig mwy o gyfleoedd i’r grwpiau a mudiadau cymdeithasol sy’n cydweithio gyda’r ganolfan i dyfu llysiau ar y safle.
Yn ogystal, bydd yr ardd yn ofod i’r gymuned greadigol sy’n gweithio yn Yr Egin, ac yn leoliad perffaith ar gyfer myfyrwyr a staff y Brifysgol i ymlacio ac i fwynhau’r awyr iach.
Dywedodd Llinos Jones, Swyddog Prosiect Ymgysylltu Yr Egin: “Rydym yn hynod falch a diolchgar o dderbyn y pecyn gwerthfawr yma gan Cadwch Gymru’n Daclus, bydd hyn yn ein galluogi i weithio yn agos a chymunedau Caerfyrddin gan roi cyfleoedd i bobol weithio a phrofi natur ar ei stepen drws. Gydag offer o safon, ac mewn awyrgylch saff a chreadigol.”
Y llynedd, cafodd dros 500 o erddi bach ar hyd a lled Cymru eu creu, eu hadfer a’u gwella. Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.
Dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Yn ystod y deuddeg mis, mae mwy o bobl nag erioed wedi dod i werthfawrogi gwerth natur ar eu stepen drws. Ond mae’n rhaid gweithredu ar frys i wrthdroi ei ddirywiad.
“Rydym wrth ein bodd bod Yr Egin wedi cael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Ein gobaith yw y bydd cymunedau eraill yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan.”
Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar ein stepen drws’.
Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael. I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/natur