Talent mewn Tafarn yn datblygu sîn comedi cymunedau gwledig

Gweithdy Tudur Owen, Tafarn Sinc

Mae Talent mewn Tafarn yn meithrin talent greadigol yn y Gymraeg, a chreu rhwydwaith o berfformwyr, ysgrifenwyr a hyrwyddwyr cymunedol newydd mewn ardaloedd gwledig. Mae pump tafarn yn rhan o’r prosiect sef Menter y Plu, Llanystumdwy; Tafarn y Vale of Aeron, Dyffryn Aeron; Tafarn Ty’n Llan, Llandwrog; Tafarn Sinc, Rosebush a Fic Llithfaen  ar y cyd â Canolfan S4C Yr Egin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac artistiaid llawrydd. Caiff y prosiect ei ariannu gan Gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. 

Dros y chwech mis diwethaf mae Talent mewn Tafarn wedi bod yn cynnal digwyddiadau amrywiol, gyda 500 o bobl yn ymwneud â’r prosiect ar draws y wlad. Mae’r prosiect wedi bod yn gweithio gyda llu o ymarferwyr megis Hywel Pitts a Tudur Owen i gynnal gweithdai comedi yn y tafarndai a chynnal digwyddiadau comedi a cherddoriaeth i ddatblygu cynulleidfaoedd yn y cymunedau gwledig. Trwy’r gweithdai comedi mae’r prosiect wedi bod yn cefnogi a datblygu hyder trigolion lleol i rhoi tro ar feithrin sgiliau newydd. 

Meddai Iwan John, Cydlynydd Prosiect Talent mewn Tafarn:

“Mae prosiect Talent mewn Tafarn yn un arbennig iawn ac mae cyd-weithio gyda’r tafarndai yn bleser llwyr. Mae gan bob Tafarn eu cynulleidfa a chwsmeriaid unigryw ac rydyn ni’n gweithio gyda’r cymunedau unigol hynny i ddod o hyd i gomediwyr newydd. Mae’r tafarndai hyn yn llwyddiannus iawn yn eu cymuned ac mae’n wych cydweithio gyda nhw i ddatblygu cynulleidfaoedd newydd. Mae’r digwyddiadau yn amrywiol ac ry’n ni wedi dod ar draws nifer o gymeriadau yn ystod y prosiect hyd yma. Ni’n edrych mlaen yn fawr nawr at ddatblygu’r prosiect ymhellach a chynnal digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni.”

Mae’r nosweithiau sydd wedi eu cynnal yn cynnwys Noson ‘Hi Hi Hi’ yn Y Fêl i ddathlu hiwmor, creadigrwydd a dychymyg merched, yn cynnwys comedi stand-yp, caneuon gwreiddiol a perfformiad o ddrama newydd Torth Stêl gan Elliw Dafydd a Naomi Seren. Mae comediwyr eraill sydd wedi gwneud digwyddiadau yn cynnwys Caryl Burke, Al Parr, Katie Gill-Williams, Aeron Pughe a Carwyn Blayney.

Fel rhan o’r rhaglen o ddigwyddiadau, cynhaliodd Tafarn Ty’n Llan eu Eisteddfod Dafarn cyntaf ar yr 8fed o Orffennaf gyda diwrnod i’r teulu cyfan i gystadlu mewn llu o ddigwyddiadau - gyda noson i oedolion yn unig gyda’r nos a’r beirniaid ac arweinwyr yn cynnwys Iwan John, Llŷr Ifans, Hywel Pitts a Catrin Toffoc. Daeth dros 200 i wylio neu gymryd rhan yn yr Eisteddfod - gyda 208 ymgais ar gystadlu dros 37 cystadleuaeth. 

Meddai Wyn Roberts o bwyllgor Tafarn Ty’n Llan;

“Cawsom Eisteddfod Dafarn yn Ty’n Llan dros y penwythnos, diwrnod gwych gyda’r pentref i gyd yn dod draw i gymeryd rhan neu i wylio rhaglen llawn o berfformiadau! Diolch anferth i griw Talent Mewn Tafarn em ei wneud yn bosib – rydym yn edrych ymlaen at Eisteddfod 2024 yn barod!” 

Mi fydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yng Nghanolfan S4C Yr Egin ar y 21 Hydref. Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin:

“Mae’r Egin yn falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect yma ac mae profi’r budd uniongyrchol i gymunedau Cymraeg ei hiaith yng ngorllewin Cymru wedi rhoi lot fawr o fwynhad yn ogystal â chydweithio a chefnogi nifer o ymarferwyr llawrydd. Dyma gyfle arbennig i bobl fagu sgiliau o fewn eu cymuned, fel gwlad o gymunedau bychain rydym yn ymwybodol nad yw hiwmor bob tro yn teithio! Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal digwyddiad fel rhan o’r prosiect yma yn Yr Egin yn ystod yr hydref ac i weld y prosiect yn mynd o nerth i nerth.”

Bydd mwy o fanylion am y digwyddiad yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!