‘Talent mewn Tafarn’

Mae Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn edrych ymlaen i gydweithio gyda partneriaid ledled gorllewin Cymru yn dilyn llwyddiant cais i gronfa ‘Cysylltu a Ffynnu’, Cyngor Celfyddydau Cymru.  

Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Uchelgais y prosiect ‘Talent Mewn Tafarn’ yw meithrin talent greadigol yn y Gymraeg, a chreu rhwydwaith o berfformwyr, ysgrifennwyr a hyrwyddwyr cymunedol newydd mewn ardaloedd gwledig a hynny ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, pum tafarn cymunedol ac artistiaid llawrydd.

Drwy gydweithio â thafarndai cymunedol Menter y Plu, Llanystumdwy; Tafarn y Vale of Aeron, Dyffryn Aeron; Tafarn Ty’n Llan, Llandwrog; Tafarn Sinc, Rosebush a’r Fic Llithfaen, sydd yn gonglfeini ar gyfer eu cymunedau bydd y prosiect yn ceisio datblygu cynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac artistiaid cymunedol newydd .

Bydd ‘Talent Mewn Tafarn’ yn cydweithio â mentoriaid ag artistiaid llawrydd, sy’n arbenigo mewn ffurfiau celfyddyd amrywiol ac yn defnyddio comedi fel sail, er mwyn meithrin talentau a sgiliau creadigol newydd yn y Gymraeg, a sefydlu rhwydwaith o berfformwyr a hyrwyddwyr cymunedol bydd yn cyfrannu at adfywio ac adfer cymunedau yng ngorllewin Cymru ôl-covid. Cam cynta y prosiect yw penodi Cydlynydd, cyfle arbennig i rywun sydd â diddordeb brwd mewn comedi, datblygu talent newydd a gweithio a’r lawr gwlad.

 Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin,

“Rydym yn gyffrous tu hwnt am y prosiect yma ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at gydweithio gyda’r partneriaid a chynnal sesiynau hyfforddiant yma yn Yr Egin. Mi fydd penodi’r Cydlynydd yn gam pwysig ac felly rwy’n annog unrhywun sydd â diddordeb i ddatblygu Talent Mewn Tafarn i gysylltu am rhagor o wybodaeth neu i fynd i wefan Yr Egin am fanylion pellach. Rwy’n ffyddiog y bydd y prosiect yn cynorthwyo i rymuso ac adfywio ein cymunedau a bydd chwerthin i’w glywed ledled gorllewin Cymru”

Dyma fydd y tro cyntaf i ambell dafarn gydweithio â’i gilydd heb sôn am gydweithio gyda’r Egin, yr Eisteddfod Genedlaethol ac artistiaid llawrydd.

Dywedodd Lowri Jones, o Dafarn y Vale of Aeron,  

“Mae comedi yn rhan o natur cefen gwlad. Trwy chwerthin gyda'n gilydd - ar ben ein sefyllfaoedd ni'n hunain yn aml - mae cymdeithas yn dod ynghyd. Yn ffindio ein ffordd trwy'r byd. A ble gwell i chwarthin gyda'n gilydd nag mewn tafarn? Ar ddechrau ein taith fel tafarn gan y gymuned, ry'n ni yn y Vale yn edrych ymlaen at gydweithio â'r Egin er mwyn buddsoddi mewn mwy o wherthin yn y gorllewin!”

Y gobaith yw bydd 'Talent Mewn Tafarn' yn adeiladu perthynas newydd, hirdymor rhwng sefydliadau cymunedol, sefydliadau cenedlaethol, artistiaid llawrydd ac artistiaid ar eu pryfiant, ac mi fydd yn archwilio sut y gellir ddefnyddio perfformio byw i wella lles, hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a chynhwysiant diwylliannol.

Ychwanegodd Sioned Edwards o Eisteddfod Genedlaethol Cymru,  

“Wedi dwy flynedd anodd mae angen rheswm i chwerthin arnom mwy nag erioed. Rydym yn edrych mlan i gydweithio i ddatblygu rhwydwaith newydd a perfformwyr comedi newydd yn y Gymraeg.”

Bydd y prosiect hefyd yn ogystal yn creu cyfleoedd i gyfrannu tuag at economi gyda’r nos mewn ardaloedd gwledig, ac yn darparu cyfleoedd diwylliannol a hyfforddiant i bobl o bob oed a phob cefndir gyda phwyslais hefyd ar dargedu pobl ifanc a phobl ag anableddau.

Dan arweinyddiaeth artistiaid ac ar y cyd â chwmniau perfformio a rhwydwaith o hwyluswyr lleol, bydd y prosiect yn comisiynu a chefnogi cyfleon i gynhyrchu gwaith newydd i’w berfformio yn ardaloedd gwledig gorllewin Cymru, gan roi mynediad uniongyrchol i gelfyddyd ar garreg drws.

Un o brif amcanion y prosiect fydd creu gwaddol; boed hynny’n waddol cymunedol, ieithyddol, cynhwysol, diwylliannol ac economaidd o fewn yr ardaloedd penodedig sy’n cael ei dargedu.  

 Am fwy o wybodaeth am swydd y Cydlynydd Prosiect, ewch wefan Yr Egin yma. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4ydd Gorffennaf.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!