#ArBenYByd yng Nghanolfan S4C Yr Egin – Dewch i fod yn rhan o’n Wal Goch ni!  

Gyda deg diwrnod i fynd tan fod Cwpan y Byd 2022 yn dechrau, mae Canolfan S4C Yr Egin yn falch o gyhoeddi y bydd yna ardal i gefnogwyr neu ‘Fanzone’ ar gael i bawb fwynhau gemau tîm pêl-droed Cymru. 

Mi fydd Cymru yn chwarae Unol Daleithiau America ar y 21ain o Dachwedd am 7yh, Iran ar y 25ain o Dachwedd am 10yb a Lloegr ar y 29ain o Dachwedd am 7yh, fel rhan o rownd grŵp y twrnament. Mae yna felly groeso mawr i bawb - yn unigolion, grwpiau, teuluoedd a chymdeithasau, i ddod i wylio’r gemau ar sgrîn fawr yn Yr Egin, a hynny am ddim.  

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, “Dyma bencampwriaeth nad yw Cymru wedi bod yn rhan ohono ers 1958 ac mae’n bleser llwyr cynnig Yr Egin fel man i bawb gefnogi’r tîm cenedlaethol. Gorau chwarae cyd-chwarae yw arwyddair y tîm pel-droed, byswn i'n dweud bod cyd-wylio a chyd-ddathlu llwyddiant tîm Cymru hefyd yn bwysig tu hwnt a mi fydd yna lot o hwyl i bawb o bob oedran wrth ddod ynghyd i gefnogi a mwynhau’r arlwy a sylwebaeth S4C.” 

Y cyfan sydd angen gwneud er mwyn mynychu yw cofrestru eich lle ar ein gwefan – yregin.cymru.  

Mi fydd y caffi a’r bar ar agor yn ystod y gemau i chi gael diod a lluniaeth tra’n mwynhau’r pel-droed ac mi fydd yna awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar yma wrth gwrs, felly mae’n le perffaith i ddod a’ch plant i wylio tîm Cymru. 

Cofiwch hefyd i fynd ati i ddysgu cân arbennig a recordiwyd yn Yr Egin rhai wythnosau yn ôl - ‘O Sir Gâr i Qatar’. Mi ddaeth yna bron i fil o blant o 27 ysgol yn Sir Gaerfyrddin at ei gilydd i berfformio a recordio ‘O Sir Gâr i Qatar’, cân arbennig i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd eleni. 
 
Mi roedd cyfansoddi, perfformio a recordio'r gân yn brosiect ar y cyd rhwng Canolfan S4C Yr Egin, Menter Cwm Gwendraeth Elli, Menter Gorllewin Sir Gâr a Menter Dinefwr. Cyfansoddwyd y gân gan aelodau Theatr Plant y Cwm (clwb sy’n cael ei redeg gan Fenter Cwm Gwendraeth Elli) ar y cyd gyda’r canwr a’r cyfansoddwr, Steffan Rhys Williams, mewn gweithdy cyfansoddi. 
 
Dywedodd Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Yr Egin, “Unwaith i mi glywed y gân, roedden i'n benderfynol y dylai pob plentyn yn Sir Gâr gael y cyfle i ddysgu’r gân hon, a dod yma i'r Egin i'w recordio. Dwi mor falch fod hynny wedi gallu digwydd ac mae hi wir wedi bod yn bleser gweld y plant yn cael profiad bythgofiadwy wrth wneud. Mae’n diolch ni’n fawr i’r holl ysgolion sydd wedi cymryd rhan, i Steffan Rhys Williams am gyd-gyfansoddi a gwneud y broses recordio’n bosib, ac i'r mentrau iaith leol am eu gwaith ar y prosiect.” 

Ychwanegodd Elen Davies o Fenter Cwm Gwendraeth Elli “Braf oedd cael chwarae rhan mor flaen llaw yn rhoi platfform i ddisgyblion Sir Gâr i floeddio canu eu cefnogaeth i dîm pêl-droed Cymru. Roedd bod yn rhan o’r prosiect yn brofiad arbennig iawn, bydd yn bendant yn aros yn y cof. Diolch yn fawr i dîm yr Egin ac i Llinos. Ymunwch â ni wrth i ni gefnogi Cymru.” 
 
Cafodd y gân, sydd bellach yn anthem i blant ysgolion cynradd Sir Gâr, i'w rhyddhau yn nigwyddiad Hwyl yr Hydref a gynhaliwyd yn Yr Egin ac mae’n bosib i chi ymuno a dysgu’r geiriau drwy fynd i'n gwefan – yregin.cymru
 
Ymunwch â ni dros yr wythnosau nesa’ wrth i ni roi sbin ar arwyddair tîm pêl-droed Cymru... Gorau Chwarae, Cyd Chwarae - Gorau Cefnogi, Cyd Gefnogi.Dewch i fod yn rhan o'r Wal Goch drwy ddod i fwynhau’r gemau yma yng Nghanolfan S4C yr Egin. 

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!