Urdd Gobaith Cymru yn agor swyddfa yn Yr Egin.

Wrth wraidd y sector creadigol yn ne-orllewin Cymru, y mae Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr Urdd yn ymuno ag amryw o denantiaid wrth ymgartrefu yn Yr Egin,sy’n bencadlys i S4C, ac yn gartref i nifer o gwmniau ym maes cynhyrchu, dylunio a chyfieithu.

Mae swyddfa newydd yr Urdd yn gartref i dîm Urdd Myrddin a hefyd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o staff ac adrannau’r mudiad o draws y rhanbarth gan gynnwys adran yr Eisteddfod a Chwaraeon ac yn fan cyfarfod defnyddiol i swyddogion celfyddydol Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro. Ers iddynt agor swyddfa yn Yr Egin, mae’r Urdd wedi llwyddo i wneud y defnydd mwya’ o’r cyfleusterau sydd gan y ganolfan i’w gynnig sy’n cynnwys cysylltedd cyflym, ffrydio proffesiynol a chyfleon i gydweithio. 

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru,

 “Rydym yn falch o fod wedi agor swyddfa newydd yng nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin. Dyma gyfle i’n staff i gyd-weithio’n agosach gyda’r holl gwmnïau a sefydliadau sydd ar safle’r Egin gan obeithio cynnal gweithgareddau amrywiol ar y cyd a manteisio ar y defnydd o adnoddau modern ac arloesol yr adeilad. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r bartneriaeth a chryfhau ein darpariaeth a chyfleoedd i blant a phobl ifanc i’r dyfodol.”

Yn wir, mae hyn eisoes ar waith, cynhaliwyd gweithdy Effeithiau Sain i Ffilm hynod lwyddiannus ac arddangosfa gelf a mae yna edrych ymlaen di-ddiwedd i gynnal twrnament FIFA ar ddiwedd y gwyliau haf.

Wrth i Sir Gaerfyrddin edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesa’, a pharatoadau ar gyfer y cystadlu a pherfformiadau ar waith ar hyd a lled y sir, mi fydd y swyddfa yn Yr Egin siwr o brysuro eto.

Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin: “Mae’n newyddion arbennig medru croesawu‘r Urdd i'r Egin, maen’t yn atodiad gwych i’r gymuned greadigol sy’n gweithio yma eisoes. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r mudiad yn eu cenhadaeth i gynnig cyfleon yn y Gymraeg i blant a phobl ifanc sy’n cydfynd yn llwyr gyda gweledigaeth Yr Egin i godi statws y Gymraeg a’i diwylliant yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos mewn modd cyhoeddus, cyfoes a chyffrous.”

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!