Athro Emerita Y Drindod Dewi Sant yn lansio’i chyfrol ‘Tosturi’ yng Nghanolfan S4C

Fe lansiodd Menna Elfyn, Athro Emerita Ysgrifennu Creadigol ym Mhrrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei chyfrol newydd ‘Tosturi’ ar yr 8fed o Ebrill 2022.

Yn ystod y lansiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan S4C Yr Egin, cafwyd darlleniadau o’r gyfrol, yn ogystal â sgwrs rhwng Menna a’i ffrind Elinor Wyn Reynolds, ac ambell i gân gan ferch Menna, Fflur Dafydd.

Dyma’r gyfrol gyntaf o farddoniaeth sydd wedi’i chyhoeddi trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig gan Menna ers deng mlynedd.‘Tosturi’ yn gasgliad o gerddi sy’n marwnadu ac yn moli, yn cofio ac yn pryfocio, yn herio ac yn tosturio wrth i’r bardd ymateb i’r camweddau a wnaed yn erbyn menywod dros y canrifoedd.

Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o gerddi sy’n cynnwys rhai hunangofiannol, cerddi gwleidyddol, rhai sydd wedi’u hysbrydoli gan y cyfnod clo, ac ambell un am fyd natur.

Dywedodd Menna,

“Bûm yn myfyrio yn hir uwchben y gair ‘Tosturi’, and I suppose this is one of the great emotions in my poetry when responding to life’s intense, exuberant and exciting turns.  What I then try to do is calm the feelings as I note them as words on paper in the hope that others, readers or listeners, will be able to identify with feeling, over again, the kind of pain or thrill I had in expressing them. There are a number of poems about women, both serious and humorous, many poems about nature and lockdown, and the struggle with the spiritual world with poems such as ‘Iachawdwriaeth’, [Salvation] and ‘Amen’.

“Rwy hefyd yn hoffi canfod eironi bywyd ac er na all barddoniaeth newid y byd, mae bardd yn aml am newid ambell ymagwedd tuag at ein byw a’n bod yn y byd sydd ohono.”

“Hon yw’r bymthegfed gyfrol o farddoniaeth imi ei chyhoeddi a’r gyntaf yn Gymraeg am gryn dipyn, felly rwy’n falch iawn ohoni am y rheswm hynny, ac i Barddas am anwesu’r gyfrol o’r cychwyn cyntaf wrth ddymuno ei chyhoeddi.”

I gyd-fynd â’r cerddi, mae’r arlunydd Meinir Mathias wedi creu darluniau trawiadol drwy’r llyfr gan gynnwys llun arbennig o Catrin Glyndŵr, un o’r merched sydd â cherdd iddi yn y gyfrol, ar y clawr. Meddai Meinir,

“Roeddwn mor falch o dderbyn y comisiwn hwn gan Menna Elfyn ar gyfer y llyfr anhygoel yma a'r cyfle i ymateb i’w cherddi. Mae gen i lawer o barch at Menna a phopeth mae hi wedi ei gyflawni ac mae hi'n Gymraes Gyfoes ysbrydoledig ac yn 'role-model' creadigol i ferched.

“Roedd yr her i weithio ar lun o Catrin Glyndŵr yn apelio’n fawr ataf. Nid yw cymeriadau hanesyddol o hanes Cymru wedi'u cynrychioli'n dda iawn mewn Celf ac anaml y gwelir ffigurau benywaidd fel Catrin Glyndŵr mewn gweithiau Celf. Roedd ymchwilio i’r dillad a’r steiliau a wisgwyd gan ffigurau yn ystod y cyfnod hwn yn rhan o’r ymchwil ar gyfer y comisiwn hwn ac roedd yn ddiddorol iawn ail-ddychmygu arfbais Glyndŵr ar ei chlogyn. Wrth weithio ar gomisiwn, trafodwyd rhai penderfyniadau am ei golwg gyda Menna.”

 “Gwnaethom y penderfyniad i'w phortreadu ar ddiwrnod ei phriodas. Tusw o flodau gwyllt yw’r blodau i gynrychioli harddwch ac eiddilwch y dirwedd Gymreig y mae hi wedi’i phlethu â hi. Mae ei gwallt i lawr, yn rhydd ac yn wyllt mewn cyferbyniad â’r hyn a ddisgwylid gan ferched â statws yn y cyfnod hwnnw, sy’n cyfeirio at gryfder ei chymeriad a’i natur wrthryfelgar. Mae lliwiau llachar ei dillad yn awgrymu pwysigrwydd a statws ei llinach. Mae naws wahanol iawn i’r darlun du a gwyn ohoni yn y tŵr i gymharu â’r clawr llachar gyda chyferbyniadau llym, gwacter lliw, yn adlewyrchu’r sefyllfa a’r teimlad o’r sefyllfa o gael ei dal fel aderyn mewn cawell.”


Mae’r gyfrol‘Tosturi’ gan Menna Elfyn bellach ar werth mewn siopau llyfrau lleol.

Lluniau: Tudur Dylan Jones

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!