Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn mwynhau profiad gwaith ar set ‘Yr Amgueddfa’.

Mae myfyrwyr o gyrsiau BA Dylunio Setiau a Chynhyrchu a BA Gwneud Ffilmiau Antur o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, campws Caerfyrddin wedi bod ar brofiad gwaith yn ddiweddar i set y gyfres ddrama boblgaidd ‘Yr Amgueddfa' (‘The Museum’) i S4C.

Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf, mae’r ail gyfres o ‘Yr Amgueddfa' wrthi’n cael ei ffilmio ac wedi bod yn Amgueddfa Sir Gâr yn ddiweddar. MaeYr Amgueddfayn ddrama wreiddiol gan yr awdur gwobrwyedig Fflur Dafydd, sy’n byw yng Nghaerfyrddin ac yn gweithio o swyddfa Boom Cymru yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Mae’n mynd a ni i fyd tywyll a pheryglus trosedd celf ac yn serennu rhai o actorion mwyaf disglair Cymru megis Nia Roberts, Steffan Rhodri, Sharon Morgan a Delyth Wyn i enwi ond ychydig.

Un o amcanion sefydlu Canolfan S4C Yr Egin ar gampws y Drindod Dewi Sant oedd i fod yn ddolen gyswllt, gyda’r bwriad o ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg ymhlith y myfyrwyr, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.

Bu ymweld â'r lleoliad ffilmio yn gyfle euraidd i’r myfyrwyr fedru cael blas a phrofiadau ‘go iawn’ o’r hyn sydd gan y diwydiant i’w gynnig yn ystod bwrlwm cynhyrchu drama, yn ogystal â chreu cysylltiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol – a chwrdd ag ambell i seleb!

Mae’r awdur, Fflur Dafydd, yn falch o weld y myfyrwyr o gampws Caerfyrddin yn ymddiddori yn y cynhyrchiad.

"It’s wonderful to see students having direct experience of a professional production such as this – it is one thing to study a subject, but quite another to have practical experience of doing the work, that is how one really learns. It was great that they were able to meet the actors, the director and the technical team, so as to enhance their appreciation of the work and the care that goes into creating a television drama."

Un o’r myfyrwyr sydd wedi treulio amser ar y set yw Sebastian Jones. Dywedodd:

“Mae’n gyfle arbennig i ni fel myfyrwyr i fedru cael blas o’r diwydiant teledu, a dysgu amrywiaeth o sgiliau a therminoleg newydd. Roedd pawb mor gyfeillgar, ac wedi gwneud ni deimlo’n rhan o’r tîm.”

Meddai Tea Stevens-Mclennan, myfyrwraig arall o’r Drindod Dewi Sant:

“Dwi wir wedi mwynhau fy nghyfnod yn gweithio ar y set. Mae wedi bod yn wych i allu helpu’r criw a gweld sut roedd popeth yn gweithio. Roedd pawb yn mynd allan o’i ffordd i’n helpu, yn rhoi cyngor ac yn rhannu straeon gyda ni o’u hamser yn y diwydiant. Gwnaeth hyn wneud i mi deimlo’n gyfforddus yn eu cwmni, ac yn gyffrous i wneud mwy gyda nhw yn y dyfodol.”

I Caitlin Fox, roedd y profiad yn un:

“Fi wir wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle!”

Dywedodd Siwan Phillips, Pennaeth Cynhyrchu cwmni cynhyrchu Boom Cymru:

 “Mae Boom Cymru yn hynod falch i gydweithio gyda’r Drindod Dewi Sant a chynnig cyfle i fyfyrwyr sydd ar eu cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu, a Gwneud Ffilmiau Antur, i gael profiad gwaith ar leoliad set yr ail gyfres o ddrama S4C, ‘Yr Amgueddfa'.

“Mae’n hanfodol bod y diwydiannau creadigol yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o dalent ac yn cynnig profiadau am yr hyn sydd gan y cyfryngau i gynnig iddyn nhw fel gyrfa.

“Rydym yn mawr obeithio y bydd y bartneriaeth yma’n parhau.”

Mae cyrsiau creadigol campws Caerfyrddin i gyd yn elwa o bresenoldeb Yr Egin, ac mae’r myfyrwyr yn cael cyfleoedd a hyfforddiant sy’n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Bu myfyrwyr o’r cyrsiau Gwneud Ffilmiau Antur a Gwneud Ffilmiau ar brofiad gwaith yn ddiweddar yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn ystod ffilmio’r gyfres ‘Jonathan’ ar gyfer S4C. Gwnaeth myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu Theatr yn ystod tymor yr Hydref, dderbyn cyngor ac arweiniad gan Dave Marsdon cynllunydd profiadol sy’n gyfrifol am set ‘Jonathan’, yn ogystal â chael y profiad i helpu paratoi elfennauo’r set ar gyfer y ffilm ‘Save the Cinema’.

Dywedodd y darlithydd Stacey- Jo Atkinson:

Roedd yn wych cael y myfyrwyr i fod yn rhan o ffilmio 'Yr Amgueddfa' Mae ymgysylltu â diwydiant yn elfen hanfodol o'n gradd ac mae gallu cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ar draws y sector creadigol yn hanfodol. Diolch i Carys, Llinos a Catrin am drefnu wythnos mor wych.”

Heb amheuaeth, mae partneriaethau fel hyn yn llwyddo i ehangu a datblygu cymuned Caerfyrddin Greadigol, ac yn gwireddu gweledigaeth Yr Egin o sicrhau ton o dalent newydd i’r diwydiant yng Ngorllewin Cymru.

Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin:

“Ar y naill law mae canfod llwybr mynediad i'r sector ffilm a theledu yn medru bod yn anodd iawn ar brydiau ac ar y llaw arall mae’r sector yn dymuno bod yn fwy cynhwysol ac yn chwilio am dalent yn enwedig gyda’r cynnydd mewn ffilmio drama a sgil effaith covid yn lleihau y nifer o weithwyr llawrydd. Felly mae’r Egin yn falch iawn i fedru gweithredu fel pont ac mae cael adborth mor gadarnhaol gan y myfyrwyr a Boom Cymru yn brawf bod hynny’n lwyddiant. Wrth gynnig profiadau ymarferol yn y diwydiant yn y dalgylch mae’n atgyfnerthu’r neges eu bod yn bosibl datblygu gyrfa yn y cyfryngau tra’n byw yma yng ngorllewin Cymru.”

Bu’r myfyrwyr yn ffodus o fedru ymweld â set y cynhyrchiad yn Abergwili yn ystod y bloc cyntaf o ffilmio, ac maen nhw’n edrych ymlaen yn barod i ddychwelyd ar gyfer yr ail floc a fydd yn digwydd ymhen ychydig wythnosau.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!