CYFLWYNO EICH GWAITH
Gwneuthurwyr ffilm, myfyrwyr, ysgolion, unigolion
creadigol, grwpiau c ymunedol ac unrhyw un arall
sydd â diddor deb ! Mae Canolfan S4C Yr Egin yn eich gwahodd i gyflwyno eich ffilmiau ar gyfer Gŵyl Antur Yr Egin 2024
Y CATEGORÏAU
Mae gyda ni banel feirniadu sydd yn gwylio’r holl ffilmiau a gyflwynwyd i Wŷl Antur Yr Egin.
Y Beirniaid fydd yn gyfrifol am gyflwyno enillwyr ar gyfer y categorïau canlynol:
- Ysbryd Antur
- Ymateb i heriau hinsawdd
Rydym yn derbyn ffilmiau o unrhyw fath a hyd sy’n gysylltiedig a’r categorïau uchod.
Bydd unrhyw ffilmiau o dan 10 munud yn cael eu rhoi yng nghategori ffilmiau byr yn awtomatig.
Y GWOBRAU:
- Y Ffilm artistig gorau - i gydnabod creadigrwydd sinematig.
- Y trac sain gorau
- Y ffilm gorau wedi ei wneud yn Sir Gâr Ffilmiau gan wneuthurwyr ffilm lleol neu’n cynnwys lleoliadau, pobl neu dalent y Sir.
- Y Ffilm Gorau yng Nghymru
- Y Ffilm gorau tu hwnt i Gymru
- Best Story – a Film that captivates and takes the audience on a journey.
- Y wobr cydnabyddiaeth arbennig
- Y ffilm gyffredinol orau
I gyflwyno eich ffilm defnyddiwch y linc, yma.
SUT A BETH I GYFLWYNO
Dyma beth sydd angen i chi wybod cyn cyflwyno:
- Bydd angen i chi gyflwyno’ch ffilm yn electronig (yn ddelfrydol 1920 x 1080).
- Bydd angen anfon eich gwaith at helo@yregin.cymru gan ddefnyddio Vimeo (Cofiwch gynnwys linc i lawr lwytho), WeTransfer neu Dropbox.
- Fformatau a dderbynnir: MOV (H264) neu MP4. Ni fydd modd derbyn gwaith ar unrhyw fformatau eraill.
- Bydd angen i’r holl ffilmiau gynnwys is deitlau Saesneg. Bydd angen i’r is deitlau fod wedi eu gwreiddio fewn i’r ffilm ac nid mewn ffeil ar wahân.
- HYGYRCHEDD Rydym yn gweithio tuag at gynnal dangosiadau ffilm hygyrch ar gyfer
cymunedau dall/ nam ar eu golwg a byddar. Rydym yn annog gwneuthurwyr ffilm i gyflwyno
gwaith CA (Capsiwn agored) a DS (Disgrifiad sain).
Os oes gyda chi CA gofynnwn i chi gyflwyno eich ffi lm gyda CA wedi ei losgi mewn ac nid mewn ffeil SRT ar wahân. Os oes gyda chi DS gofynnwn i chi gyflwyno ar sianel sain ar wahân yn y ffeil uchod. - CYNALADWYEDD yn eich geiriau chi, rhowch wybod i ni sut mae eich ffilm yn mynd i’r afael â chynaliadwyedd. Rydym yn edrych ar y broses a’r arfer o greu Ffilm, yr ôl troed carbon yr ydych chi’n meddwl sy’n gysylltiedig â cynhyrchiad, a c hefyd os oes galwad i weithredu o fewn y ffilm i annog eraill i weithredu mewn modd gynaliadwy. Bydd unrhyw fanylion y gallwch eu darparu yn ein helpu i gael mewnwelediad i hyn. Nodwch nad yw 'peidio' â chyflwyno unrhyw nodiadau cynaliadwyedd yn effeithio'n negyddol ar eich cyflwyniad, yn syml, dyma’r ffordd yr ydym yn ceisio annog gwneud ffilmiau cynaliadwy.
- Wrth gyflwyno eich gwaith rydych yn rhoi’r hawl i’r Egin arddangos eich gwaith hyd at 3 gwaith yn ystod yr wŷl ac yna ei arddangos unwaith eto yn ystod y flwyddyn 2024.
- Bydd yr holl waith a gyflwynwyd yn cael ei gadw gan Ŵyl Antur Yr Egin ar gyfer rhesymau beirniadu ac archif.
- Wrth gyflwyno eich ffilm i’r ŵyl (a chytuno i’r telerau yma) rydych yn cadarnhau eich bod wedi derbyn y caniatâd angenrheidiol sydd ei angen gan gyfranwyr, crewyr cerddoriaeth ac unrhyw un arall sydd yn ymwneud a’r ffilm ac yn ein hindemnio yn erbyn unrhyw atebolrwydd a all ddigwydd trwy dorri hawlfraint.
- Nodwch, mae posibilrwydd i ni ddefnyddio clipiau o’ch ffilm er mwyn hyrwyddo’r ŵyl ar lein a thu hwnt. Rhowch wybod o flaen llaw os nad ydych yn hapus i ni wneud hynny.
- Mi fydd angen i ni dderbyn manylion eich gwefannau cymdeithasol. Mi wnawn ei’n gorau er mwyn hyrwyddo eich gwaith.
- Nodwch, nid ydy cyflwyno eich ffilm yn gwarantu i ni ei ddangos yn yr ŵyl.
- Os bydd eich ffilm yn cael ei ddewis rydych yn cadarnhau i beidio disgwyl na gofyn am ffi.
- Mae rhaid i 'ch ffilm fod wedi cael ei greu ar ôl mis Ionawr 2022.
- Mae cyflwyno unrhyw gais i'r gystadleuaeth ffilm yn electronig yn awgrymu eich bod yn derbyn yr holl weithdrefnau a rheoliadau uchod.