Gŵyl Antur Yr Egin 2024

CYFLWYNO EICH GWAITH
Gwneuthurwyr ffilm, myfyrwyr, ysgolion, unigolion creadigol, grwpiau c ymunedol ac unrhyw un arall sydd â diddor deb ! Mae Canolfan S4C Yr Egin yn eich gwahodd i gyflwyno eich ffilmiau ar gyfer Gŵyl Antur Yr Egin 2024

Y CATEGORÏAU
Mae gyda ni banel feirniadu sydd yn gwylio’r holl ffilmiau a gyflwynwyd i Wŷl Antur Yr Egin. Y Beirniaid fydd yn gyfrifol am gyflwyno enillwyr ar gyfer y categorïau canlynol:

  1. Ysbryd Antur
  2. Ymateb i heriau hinsawdd

Rydym yn derbyn ffilmiau o unrhyw fath a hyd sy’n gysylltiedig a’r categorïau uchod.

Bydd unrhyw ffilmiau o dan 10 munud yn cael eu rhoi yng nghategori ffilmiau byr yn awtomatig.

Y GWOBRAU:

  • Y Ffilm artistig gorau - i gydnabod creadigrwydd sinematig.
  • Y trac sain gorau
  • Y ffilm gorau wedi ei wneud yn Sir Gâr Ffilmiau gan wneuthurwyr ffilm lleol neu’n cynnwys lleoliadau, pobl neu dalent y Sir.
  • Y Ffilm Gorau yng Nghymru
  • Y Ffilm gorau tu hwnt i Gymru
  • Best Story – a Film that captivates and takes the audience on a journey.
  • Y wobr cydnabyddiaeth arbennig
  • Y ffilm gyffredinol orau

I gyflwyno eich ffilm defnyddiwch y linc, yma.

SUT A BETH I GYFLWYNO

Dyma beth sydd angen i chi wybod cyn cyflwyno:

  1. Bydd angen i chi gyflwyno’ch ffilm yn electronig (yn ddelfrydol 1920 x 1080).
  2. Bydd angen anfon eich gwaith at helo@yregin.cymru gan ddefnyddio Vimeo (Cofiwch gynnwys linc i lawr lwytho), WeTransfer neu Dropbox.
  3. Fformatau a dderbynnir: MOV (H264) neu MP4. Ni fydd modd derbyn gwaith ar unrhyw fformatau eraill.
  4. Bydd angen i’r holl ffilmiau gynnwys is deitlau Saesneg. Bydd angen i’r is deitlau fod wedi eu gwreiddio fewn i’r ffilm ac nid mewn ffeil ar wahân.
  5. HYGYRCHEDD Rydym yn gweithio tuag at gynnal dangosiadau ffilm hygyrch ar gyfer cymunedau dall/ nam ar eu golwg a byddar. Rydym yn annog gwneuthurwyr ffilm i gyflwyno gwaith CA (Capsiwn agored) a DS (Disgrifiad sain).
    Os oes gyda chi CA gofynnwn i chi gyflwyno eich ffi lm gyda CA wedi ei losgi mewn ac nid mewn ffeil SRT ar wahân. Os oes gyda chi DS gofynnwn i chi gyflwyno ar sianel sain ar wahân yn y ffeil uchod.
  6. CYNALADWYEDD yn eich geiriau chi, rhowch wybod i ni sut mae eich ffilm yn mynd i’r afael â chynaliadwyedd. Rydym yn edrych ar y broses a’r arfer o greu Ffilm, yr ôl troed carbon yr ydych chi’n meddwl sy’n gysylltiedig â cynhyrchiad, a c hefyd os oes galwad i weithredu o fewn y ffilm i annog eraill i weithredu mewn modd gynaliadwy. Bydd unrhyw fanylion y gallwch eu darparu yn ein helpu i gael mewnwelediad i hyn. Nodwch nad yw 'peidio' â chyflwyno unrhyw nodiadau cynaliadwyedd yn effeithio'n negyddol ar eich cyflwyniad, yn syml, dyma’r ffordd yr ydym yn ceisio annog gwneud ffilmiau cynaliadwy.
  7. Wrth gyflwyno eich gwaith rydych yn rhoi’r hawl i’r Egin arddangos eich gwaith hyd at 3 gwaith yn ystod yr wŷl ac yna ei arddangos unwaith eto yn ystod y flwyddyn 2024.
  8. Bydd yr holl waith a gyflwynwyd yn cael ei gadw gan Ŵyl Antur Yr Egin ar gyfer rhesymau beirniadu ac archif.
  9. Wrth gyflwyno eich ffilm i’r ŵyl (a chytuno i’r telerau yma) rydych yn cadarnhau eich bod wedi derbyn y caniatâd angenrheidiol sydd ei angen gan gyfranwyr, crewyr cerddoriaeth ac unrhyw un arall sydd yn ymwneud a’r ffilm ac yn ein hindemnio yn erbyn unrhyw atebolrwydd a all ddigwydd trwy dorri hawlfraint.
  10. Nodwch, mae posibilrwydd i ni ddefnyddio clipiau o’ch ffilm er mwyn hyrwyddo’r ŵyl ar lein a thu hwnt. Rhowch wybod o flaen llaw os nad ydych yn hapus i ni wneud hynny.
  11. Mi fydd angen i ni dderbyn manylion eich gwefannau cymdeithasol. Mi wnawn ei’n gorau er mwyn hyrwyddo eich gwaith.
  12. Nodwch, nid ydy cyflwyno eich ffilm yn gwarantu i ni ei ddangos yn yr ŵyl.
  13. Os bydd eich ffilm yn cael ei ddewis rydych yn cadarnhau i beidio disgwyl na gofyn am ffi.
  14. Mae rhaid i 'ch ffilm fod wedi cael ei greu ar ôl mis Ionawr 2022.
  15. Mae cyflwyno unrhyw gais i'r gystadleuaeth ffilm yn electronig yn awgrymu eich bod yn derbyn yr holl weithdrefnau a rheoliadau uchod.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!