Y Gegin
Y Gegin yw canolbwynt y cartref, lle i ymlacio, trafod a rhoi’r byd yn ei le – a dyna’n union y cewch chi wneud fan hyn ar y soffas pinc cyfforddus gan adael i ni wneud y coginio.
Yma yn Y Gegin, rydym yn credu’n gryf yn yr ethos ‘gât i’r plât’ ac wrth ein boddau’n cymysgu, pobi, berwi, rhostio a choginio cynhwysion gorau’r ardal. Mae’n bwydlen wedi’i hysbrydoli gan gaeau Sir Gâr, cynnyrch o Gymru a’n teithiau tramor. Cewch ddewis o uwd Elen Benfelen neu wyau ac afacado i frecwast; prydiau blasus i fwyta yn y caffi neu ar glud i ginio a chacennau cwbl unigryw ar gyfer unrhyw adeg o’r dydd!
Di-glwten? Dim cynnyrch llaeth? Figan? Dim problem! Gadewch i un o’r tîm wybod.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu, eich bwydo a’ch gweini gyda’n coffi arbennig!
Os hoffech archebu pryd twym, bwffe, diodydd neu gacennau ar gyfer eich digwyddiad yma yn Yr Egin, ceir y dewisiadau isod.
Y Gegin yw’r man lle y bydd pawb yn ymgynnull ar gyfer parti hefyd – a ni’n rhai da iawn am wneud hynny – felly dewch draw!
Oriau agor
Llun – Gwener : 08:00 – 17:00
Cysylltwch gyda ni –
ygegin@yregin.wpengine.com i archebu a chofiwch bod croeso mawr i chi drafod opsiynau amgen gyda ni.

Welwn ni chi cyn hir! Lee a Penny xx