DIGWYDDIAD
Y Dewis - Jones The Dance
13 Mai 2024
19:30
Yr Egin
Mentrwch ar daith sinematig eithriadol na welsoch ei thebyg. Mae Y Dewis yn cynnig profiad sinema rhyngweithiol yng nghanol eich cymuned.
Nid dim ond gwylio ffilm yw hyn; mae’n brofiad sy’n eich trochi lle mae’r gynulleidfa yn dewis y naratif a siapio’r stori wrth iddi ddatblygu.
Mae Y Dewis yn addo bod yn brofiad unigryw.
Ysbrydolwyd calon y ffilm gan storïau pobl ifanc o Gymru ben baladr a gasglwyd dros bedair blynedd.
Mae taith y pump o bobl ifanc yn y ffilm, sy’n cael eu portreadu gan ddawnswyr a pherfformwyr sydd ag enw da yn rhyngwladol o gartref a thramor, yn cael ei dadlennu yng Ngwaith Brics Porth Wen sy’n dadfeilio ond eto’n drawiadol ar arfordir gogleddol Ynys Môn.
Mae’r hyn y maen nhw’n ei wneud yn dibynnu ar y gynulleidfa a sut y maent yn dewis beth sy’n digwydd nesaf.
Bydd dau berfformiwr byw yn cyfarfod y gynulleidfa ac yn eu tynnu i mewn i fyd y ffilm, gan annog y dewisiadau ar y cyd gan y gynulleidfa i siapio’r stori. Bydd y perfformwyr byw yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg a bydd nifer o berfformiadau fydd yn ymgorffori ail berfformiwr sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain hefyd.
Gan blethu dawns, Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion gyda sgôr hyfryd gan Siôn Trefor, y cyfansoddwr ffilm teledu a theatr enwog o Gymru, gwnaed y ffilm ar y cyd gan Gwyn Emberton fel coreograffydd a Chyfarwyddwr gyda’r gwneuthurwyr ffilm sy’n dod i amlygrwydd o Sweden Aaron Lindblom a Victor Söderlund Lundvall.