DIGWYDDIAD

Fy Enw i yw Rachel Corrie

19 Hydref 2024

19:30
Yr Egin
5

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno dangosiad o 'Fy Enw i yw Rachel Corrie'. 

Yn deillio o ysgrifau Rachel Corrie.

Golygwyd gan Alan Rickman a Katherine Viner. Trosiad gan Menna Elfyn. 

Gyda chefnogaeth gan Galeri.

___________________________

“Alla i ddim â chredu y gall rhywbeth fel hyn ddigwydd yn y byd heb fanllefau o brotest. Mae’n ‘nafu fi, eto, fel mae e wedi fy ‘nafu yn y gorffennol, i weld pa mor ofnadwy y gallwn ganiatáu y byd i fod.”

Mawrth 2003. Lladdwyd Rachel Corrie - ymgyrchydd ifanc o America – gan darw dur Byddin Israel wrth geisio amddiIyn cartref Palestinaidd rhag ei ddymchwel.

Yn deillio o ddyddiaduron Rachel a’i e-byst adre at ei rhieni, dyma ddrama dirdynnol a hynod bersonol sy’n dilyn ei siwrnai o fywyd swbwrbaidd i ganol gwrthdaro Israel-Palestina. Wrth ddisgrifio’r creulondeb a’r dyngarwch mae hi’n ei weld yn Gaza, mae geiriau Rachel mor berthnasol nawr ag erioed ac yn galw arnom ni gyd i weithredu dros heddwch.

Wedi’i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly a’i berIormio gan Hannah Daniel, dyma’r tro cyntaf i’r ddrama hon gael ei chyflwyno yn y Gymraeg gyda throsiad newydd gan Menna Elfyn. 

Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Maariyah Sharjil fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Kareem Samara fel Cynllunydd Sain ac Elanor Higgins fel Cynllunydd Goleuo.


Addas i oed 16+ 

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!