DIGWYDDIAD

Gweithdy Dydd Miwsig Cymru | Dydd Miwsig Cymru Workshop

07 Chwefror 2025

09:30
Yr Egin
4

Mae’r gweithdy hwn yn gwahodd disgyblion ysgol o Flwyddyn 6 i ddathlu Dydd Miwsig Cymru drwy greu cân i ddathlu bod tîm pêl-droed Merched Cymru wedi cyrraedd yr Ewros.


Yn y sesiwn 1 awr hon, dan arweiniad y cerddor Steffan Rhys, bydd disgyblion yn dysgu sgiliau cyfansoddi caneuon wrth fynegi eu creadigrwydd a’u hemosiynau.

Sgiliau bydd y disgyblion yn ei dysgu: 

  • Adrodd Storïau a Chreadigrwydd: Creu cân sy'n adrodd stori ac yn mynegi emosiynau sy'n gysylltiedig â chyflawniad y tîm pêl-droed. 

  • Odli a Chwarae â Geiriau: Arbrofi gyda geirfa ac odli i gyd-fynd â rhythm ac ystyr y gân. 

Bydd y gweithdy yn cynnig ffordd hwyliog a chreadigol i ddisgyblion ddathlu Dydd Miwsig Cymru, wrth ddatblygu sgiliau pwysig mewn cyfansoddi caneuon, gwaith tîm, a mynegiant emosiynol.

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!