DIGWYDDIAD
Gŵyl Ffilm WOW Film Festival: SATU (YEAR OF THE RABBIT)
24 Mawrth 2025
19:00
Yr Egin
Mae eleni’n nodi’r 24ain rhifyn o Ŵyl WOW, sy’n dathlu goreuon sinema Cymru a’r byd.
Mae’r Ŵyl yn arddangos amrywiaeth gyfoethog o ffilmiau sy'n amlygu talent leol a straeon byd-eang.
______________Cyfarwyddwr: Joshua Trigg
Iaith y Ffilm: Lao gydag isdeitlau Saesneg (SDH)
Ynghanol tirweddau gwyllt Laos, mae bom yn gorfodi Satu, plentyn a llafurwr gwydn, i ffoi o'i bentref. Gyda Bo, ffotonewyddiadurwr tosturiol, yn gwmni iddo, mae'n teithio tua'r gogledd i ddod o hyd i'w fam goll. Wedi'i saethu ar ffilm oleuol 16mm yn ystod y pandemig, mae'r ffilm deithio dwymgalon hon yn cyfuno goroesi a gobaith, gan ddathlu talent leol a harddwch bywiog De-ddwyrain Asia. Mae’r ffilm 'Satu' yn cyfleu ysbryd dyfalbarhad yn wyneb rhwystrau llethol, gan adlewyrchu heriau a hefyd gwobrau ei thaith gynhyrchu ryfeddol. Ffilm a 'Wnaed yng Nghymru' gan Joshua Trigg.
BYDD SESIWN HOLI AC ATEB BYW GYDA'R CYFARWYDDWR YN DILYN Y FFILM